Manylion y penderfyniad
External Regulation Assurance
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To endorse the summary of all external regulatory reports received during 2020/21 along with the Council’s responses.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2021/22 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gan ddangos bod camau’n cael eu cymryd i ymateb i argymhellion. Er nad oedd gofyn am ymateb lleol i astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru, gwelwyd dull y Cyngor o asesu yn erbyn gwaith lleol fel arfer dda. Tynnwyd sylw at dri adroddiad oedd wedi’u trefnu ar gyfer cyfarfodydd i ddod.
Ceisiodd Sally Ellis eglurder ar y broses adrodd er mwyn i’r Pwyllgor gyflawni ei rôl a sicrhau bod gweithredoedd yn cael eu gweithredu a’u monitro.
Disgrifiodd y Prif Weithredwr y broses gadarn lle mae gweithredoedd yn cael eu monitro o fewn portffolios neu drwy adolygiadau pellach gan Archwilio Mewnol, ac yn y pendraw yn cael eu hadrodd yn ôl i Drosolwg a Chraffu a’r Pwyllgor hwn.
Awgrymodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y gallai gweithredoedd allanol a gwblhawyd, yn ogystal â gweithredoedd mewnol gael eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad Blynyddol ac y gallai’r sicrwydd yma gael ei gynnwys yn y broses Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Fe awgrymodd hefyd fod yr adroddiad Sicrwydd Rheoleiddio Allanol blynyddol yn cynnwys atodiad yn dangos statws pob gweithred yn ystod y cyfnod.
Cyfeiriodd Allan Rainford at y cynigion ar gyfer gwella (P1) yn adroddiad Archwilio Cymru ar incwm rhenti a gofynnodd am oblygiadau mân newidiadau a wnaed i ymateb y Cyngor. Cytunodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol i ymateb ar wahân i’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd dros ymateb y Cyngor i adroddiadau rheoleiddio allanol.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: