Manylion y penderfyniad
Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To receive the Annual Audit Summary from the Auditor General for Wales and note the Council’s response.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y Crynodeb Archwilio Blynyddol oedd yn crynhoi casgliadau gwaith archwilio a rheoleiddio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru (AC) yn ystod 2020/21. Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, heb unrhyw argymhellion ffurfiol wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn. Mae manylion am ymateb y Cyngor i’r cynigion am welliant yn yr eitem Sicrwydd Rheoleiddio Allanol ar yr agenda.
Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o gyflawniadau allweddol megis cwblhau datganiadau ariannol y Cyngor yn gynnar i safon dda, cydnabyddiaeth o strategaeth cyfathrebu clir ac arweinyddiaeth gref o adferiad y Cyngor o effaith y pandemig. Dywedodd bod llai o wybodaeth gymharol am berfformiad yn adlewyrchiad o effaith y pandemig ar bob cyngor. Er bod cydnabyddiaeth fod y sefyllfa o ran dyledion rhent wedi sefydlogi, roedd rhagor o gyfleoedd yn cael eu harchwilio i wella perfformiad ac ymgysylltu â thenantiaid.
Gan ymateb i gwestiwn Allan Rainford ar adnabod ffyrdd gwahanol o weithio, dywedodd Gwilym Bury fod yr adroddiad yn nodi casgliadau gwaith archwilio yn ystod 2020/21 ac yn cydnabod y pwysau aruthrol sy’n deillio o’r pandemig.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Allan Rainford a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: