Manylion y penderfyniad

Budget 2022/23 - Final Closing Stage

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To update on the final budget proposals for 2022/23 for recommendation to County Council

Penderfyniadau:

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i bawb am gyfrannu at broses y gyllideb.   Hefyd, diolchodd i Lywodraeth Cymru (LlC) am y setliad gorau yr oedd y Cyngor wedi’i dderbyn hyd yma.    Fodd bynnag, roedd yna heriau o’n blaen i’w hwynebu.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y Cabinet wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y prif benawdau ac effeithiau ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2022. 

 

Yn y bôn, roedd y setliad yn cynnwys cadarnhad o’r angen i dalu costau rhai cyfrifoldebau newydd - y mwyaf sylweddol ohonynt fyddai (1) costau llawn dyfarniadau tâl yn y dyfodol; (2) gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol; (3) rhoi’r gorau i’r gronfa galedi; ac (4) effeithiau Grant Penodol.

 

Oherwydd yr uchod, roedd angen gwneud gwaith brys wedi’i flaenoriaethu ac roedd deilliant y gwaith hwnnw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.    Roedd yr adroddiad yn cynnig atebion ac argymhellion i’r Cyngor allu llunio cyllideb gyfreithiol a chytbwys.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethiant lleol ar gyfer 2022/23.   Cynigiwyd penderfyniad ffurfiol i'w roi gerbron y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i roi gwybod eu bod wedi derbyn praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.

 

Roedd lefel cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor yn benderfyniad i’r Cyngor llawn.   Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai cynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai.    Roedd yn rhaid i’r Cyngor gynnwys nifer o bwysau ychwanegol i ddarparu ar gyfer y pwysau ychwanegol a nodwyd yn y Setliad Dros Dro gan Lywodraeth Leol Cymru oedd wedi cynyddu gofyniad y gyllideb.    Yn seiliedig ar ofyniad y gyllideb ychwanegol terfynol o £30.562miliwn, roedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% ar Dreth y Cyngor i Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE.   Roedd hynny’n cyfateb i ymgodiad cyffredinol o 3.95% ac yn darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o £3.825miliwn yn 2022/23.  Roedd hynny’n gyfystyr â chynnydd blynyddol o £55.08 y flwyddyn ac yn dod â’r swm i £1,449.58 ar Band D cyfatebol (£1.06 yr wythnos).

 

Roedd y Cyngor wedi cael gwybod am y praesept Heddlu a phraeseptau cyngor tref a chymuned ar gyfer 2022/23 fel awdurdod casglu Treth y Cyngor ac roedd yna adroddiad ar wahân ar raglen y Cyngor i’w drafod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson am yr heriau y byddai’r Cyngor yn wynebu ym mlwyddyn 2 a 3, gan gynnwys y pwysau ychwanegol fel y cynnydd mewn chwyddiant a chostau ynni. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyhoeddiad diweddar wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ar dâl costau byw o £150 i bob aelwyd ym Mandiau A-D, ac roedd angen deall manylion hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi a chymeradwyo’r diwygiad ychwanegol yng ngofynion y gyllideb ar gyfer 2022/23;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;

 

(c)        Y bydd y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiad a amlinellir yn yr adroddiad;

 

(d)       Nodi’r risgiau agored sydd angen parhau i’w rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23;

 

(e)       Bod cynnydd blynyddol cyffredinol yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23 o 3.3% am Wasanaethau’r Cyngor a 0.65% o gyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE - ymgodiad cyffredinol o 3.95% i gael ei argymell i’r Cyngor;

 

(f)        Bod £3.250miliwn ychwanegol yn cael ei drosglwyddo o’r Arian at Raid i’r Gronfa Wrth Gefn at Argyfwng i ddiogelu yn erbyn risgiau ariannol parhaus y pandemig yn 2022/23;

 

(g)       Bod y Cyngor yn cael gwahoddiad i gymeradwyo Treth y Cyngor ffurfiol nawr bod praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob cyngor tref a chymuned o fewn Sir y Fflint wedi’i dderbyn a

 

(h)       Nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2022 - Cabinet

Yn effeithiol o: 24/02/2022

Dogfennau Atodol: