Manylion y penderfyniad
Flintshire Micro-Care Project
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the progress to date.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Sir y Fflint, fel llawer o awdurdodau lleol, yn wynebu pwysau i fodloni’r galw mwy am ofal cymdeithasol, gyda phoblogaeth h?n ac asiantaethau gofal yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gweithwyr. Gallai darparu gofal yn rhannau mwy gwledig y sir fod yn benodol broblemus.
Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, roedd menter beilot Micro-ofal wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r broblem o gyflenwi gofal ac roedd yr awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn ei geisiadau am gyllid gan Cadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi gweithredu'r prosiect.
Roedd mentrau Micro-ofal yn cael eu diffinio fel cwmnïau bach â phum gweithiwr, gyda nifer ohonynt yn fasnachwyr unigol, yn darparu gofal neu wasanaethau'n ymwneud â gofal i drigolion Sir y Fflint. Hyd yma, roedd y cynllun peilot wedi llwyddo i gefnogi 22 o unigolion i sefydlu a gweithredu fel busnes gofal annibynnol. Ym mis Medi 2021, roedd y busnesau hynny’n darparu ar gyfer 79 o gleientiaid ac yn cynnig cyfartaledd o 497 awr o wasanaethau gofal, cymorth neu les. O’r 497 awr, roedd 420 ar gyfer gofal personol a 77 awr ar gyfer gwasanaethau yn ymwneud â lles, e.e. glanhau, siopa a chwmni.
Roedd y cynllun wedi bodloni pob un o dargedau dangosyddion perfformiad allweddol y ddau gyllidwr a gan ei fod mor llwyddiannus, roedd wedi’i ariannu am 12 mis arall drwy Gronfa Economi Sylfaenol LlC ar gyfer 2021/22. Byddai’n cael ei ddefnyddio i barhau â’r cynllun Micro-ofal a thyfu nifer y microfusnesau a oedd wedi’u sefydlu ac yn darparu gofal yn y sir.
Dywedodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, yn dilyn gwerthusiad cynnar o’r cynllun, fod micro-ofal yn Sir y Fflint eisoes i’w weld yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r farchnad ofal. Roedd yn creu swyddi cynaliadwy a datrysiadau gofal mwy lleol i bobl. Roedd adborth gan gleientiaid, teuluoedd a swyddogion y Cyngor wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Canmolodd y Prif Weithredwr y gwasanaeth am y fenter arloesol oedd yn creu gwytnwch mewn marchnad dan bwysau a chroesawai y byddai’n ychwanegu gwerth at y gymuned.
Croesawai’r Cynghorydd Bithell yr adroddiad, a oedd yn dangos y byddai gwasanaethau gofal addas yn cael eu darparu at anghenion unigol. Gofynnodd sut y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bobl a oedd yn ymgymryd â’r gwaith ac eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod hyfforddiant o safon wedi’i ddatblygu ac y byddai’r gwasanaeth yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i bawb.
PENDERFYNWYD:
Parhau i gefnogi cynnydd a wnaed wrth gyflwyno’r cynllun peilot micro-ofal arloesol a chyfraniad cadarnhaol y cynllun i fodloni’r galw am ofal yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Emma Murphy
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 14/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/12/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/12/2021
Dogfennau Atodol: