Manylion y penderfyniad

Joint funded care packages

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To explain the workings of the joint funding of care packages with the Health Board.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’r Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad ar y prosesau ar gyfer cytuno ar becynnau gofal a ariennir ar y cyd rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dilyn pryderon Aelodau am oblygiadau llai o gyfraniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Roedd yr adroddiad wedi ei groesawu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r heriau ynghlwm â’r mater cymhleth hwn a’r angen i gynnal perthynas waith agos gyda chydweithwyr BIPBC i gytuno ar y pecyn Gofal Iechyd Parhaus mwyaf priodol ar gyfer unigolyn. Amlinellwyd y meini prawf cymhwyso ar gyfer darparu’r gwasanaethau hyn yn y ddogfen fframwaith cenedlaethol (sydd wedi ei hatodi i’r adroddiad) a oedd ar hyn o bryd yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru.Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r ddyled gyfredol oedd heb ei thalu ac a oedd yn ddyledus gan BIPBC.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad manwl, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd hyn yn mynd i’r afael â’i gwestiwn gwreiddiol yngl?n â gostyngiad o £0.133K yn y cyfraniad gan BIPBC am becyn Gwasanaeth Anabledd yr adroddwyd yn ei gylch ym mis Mawrth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r broses ar gyfer rheoli achosion dadleuol yn elwa o benodi Swyddog Monitro Gofal Iechyd Parhaus ymroddedig ar gyfer y Cyngor fel y cytunwyd. Rhoddodd sicrwydd yr apeliwyd a heriwyd achosion dadleuol a chytunodd i ddarparu gwybodaeth ar yr achos penodol y cyfeiriwyd ato gan y Cynghorydd Jones.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Ofal Iechyd Parhaus fel maes hynod o ddadleuol ac y byddai creu’r rôl newydd yn cynyddu capasiti.Ar gwestiwn y Cynghorydd Jones, awgrymodd y gallai’r swm fod wedi bod yn ffigwr dangosol nad oedd wedi ei gyflawni ac y byddai dadansoddiad manwl yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor yn breifat i osgoi trafodaeth agored ar achos penodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am i’r wybodaeth gynnwys y swm o arian a gollwyd bob blwyddyn o’i gymharu â’r hyn oedd wedi ei ragweld. O ganlyniad i’r adnoddau oedd eu hangen i gasglu’r wybodaeth hon, gofynnodd am i’r dadansoddiad ymwneud â chyfnod o amser y gellid ymdrin â hynny yn rhesymol gan y tîm.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts sicrwydd o drafodaethau cryf gyda BIPBC ar sawl achlysur i ddatrys dadlau yngl?n ag achosion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr tra bod cyllid yn y pendraw yn cael ei dderbyn gan BIPBC ar gyfer achosion nad oeddent yn ddadleuol, dylai fod yna ddatrysiad ychwanegol sef bod lefel y ddyled barhaus gyda BIPBC yn arfer annerbyniol sydd angen gwelliant pellach – fel gaiff ei gydnabod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Patrick Heesom.

 

Rhoddwyd eglurhad i’r Cadeirydd yngl?n â’r broses o ddatrys anghydfod. Diolchodd i’r Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn:

 

 (a)         Nodi’r ymagwedd rheoli cyllideb, ymagwedd sy’n gadarn a rhagweithiol, y mae’r Cyngor yn ei gymryd ar becynnau gofal a ariennir ar y cyd;

 

 (b)         Croesawu’r cynllun i gyflwyno swydd Swyddog Monitro Gofal Iechyd Parhaus wedi ei gefnogi gan gyllid cyfalaf ‘Buddsoddi i Arbed’;

 

 (c)         Ceisio dealltwriaeth yngl?n â’r cyfanswm o arian a gollwyd i’r Cyngor dros gyfnod rhesymol o amser a’r gostyngiad o ran cyfraniad o £0.133K a adroddwyd ym mis Mawrth; ac

 

 (ch)      Awgrymu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y dylai eu Pwyllgor Archwilio adolygu’r sefyllfa hon.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 08/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 08/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: