Manylion y penderfyniad
Welsh Government White Paper Consultation - Rebalancing Care and Support
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider the White Paper, to note and support the response to the consultation response submitted by the Council and approve the report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio safbwyntiau Awdurdodau Lleol ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod y prosesau comisiynu lleol cyfredol, ac yn ailganolbwyntio blaenoriaethau o ran comisiynu gofal a chymorth.
O’r achos dros newid, daeth tri maes allweddol i’r amlwg lle’r oedd LlC yn credu bod angen gweithredu â ffocws i gyflwyno gwelliant ar draws y system i sicrhau gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol.
· Ailganolbwyntio sylfeini’r farchnad ofal – draw oddi wrth brisiau a thuag at ansawdd a gwerth;
· Ailgyfeirio arferion comisiynu – rheoli’r farchnad a chanolbwyntio ar ganlyniadau; a
· Datblygiad dulliau integreiddio – canolbwyntio ar gynllunio a darparu ar y cyd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drwy weithredu yn y meysydd hynny, roedd y Papur Gwyn yn ceisio ailgydbwyso’r farchnad gofal a chymorth ar sail fframwaith cenedlaethol clir lle’r oedd gwasanaethau’n cael eu trefnu’n rhanbarthol a'u darparu'n lleol. Wrth wneud hynny, eu nod oedd ailgydbwyso gofal cymdeithasol lle nad oedd yna orddibyniaeth ar y sector preifat, na monopoli yn y cyfeiriad arall.
PENDERFYNWYD:
Cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad i’r Papur Gwyn.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 15/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/06/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 24/06/2021
Dogfennau Atodol: