Manylion y penderfyniad

Recruitment of a Lay Member to the Audit Committee

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To approve the recruitment process of a Lay Member to the Audit Committee as required by the Local Government and Elections (Wales) Bill

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gymeradwyo’r broses o recriwtio Aelod Lleyg ar gyfer y Pwyllgor Archwilio yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, ar ôl ystyried maint ei aelodaeth, fod y Pwyllgor Archwilio wedi argymell y dylai’r aelodaeth bresennol o 9 barhau (7 Cynghorydd etholedig a 2 aelod lleyg). Os oedd y Cyngor yn dymuno parhau â 9 aelod byddai’n rhaid iddo newid un Cynghorydd etholedig ar y Pwyllgor am aelod cyfetholedig (lleyg). Fel arall, fe allai’r Cyngor benderfynu lleihau maint y Pwyllgor i 6 aelod (4 Cynghorydd etholedig a’r 2 aelod lleyg presennol). 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog gyngor ac atgoffodd y Cyngor y byddai gan y Pwyllgor rôl ehangach o 1 Ebrill 2021. Dywedodd fod y gofyniad i newid yr aelodaeth o fewn y darpariaethau a fydd yn dod i rym ar adeg a ddewisir gan Weinidogion. Disgwyliwyd y byddai hyn yn digwydd ym mis Ebrill 2021 ond erbyn hyn deallir y bydd yn digwydd ym mis Mai 2022. Felly, esboniodd y gallai’r Cyngor gynnal yr aelodaeth bresennol ar gyfer gweddill y tymor hwn a dechrau’r broses recriwtio ar ddiwedd yr hydref er mwyn penodi’r aelod lleyg ym mis Chwefror neu fis Mawrth 2022.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr argymhelliad yn yr adroddiad bod nifer yr aelodau yn y Pwyllgor Archwilio yn aros ar 9 ac o fis Mai 2022 byddai’n cynnwys 6 o Gynghorwyr etholedig a 3 aelod lleyg a bod y panel recriwtio (fel yr awgrymwyd yn yr ail argymhelliad yn yr adroddiad) yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor ar gyfer penodi aelod lleyg ychwanegol.

Wrth gynnig yr argymhellion, gwnaeth y Cynghorydd Chris Dolphin sylw ar yr arbenigedd gwerthfawr yr oedd aelodau lleyg yn ei gynnig i’r Pwyllgor Archwilio a’r cyfraniad ardderchog a oedd yn cael ei wneud gan aelodau lleyg presennol. Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Neville Phillips.

 

Ar ôl pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Recriwtio un aelod lleyg ychwanegol i’r Pwyllgor Archwilio yn lle aelod etholedig o fis Mai 2022; a

 

 (b)      Bod y panel recriwtio yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Aelod Cabinet Cyllid, yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor yngl?n â phenodi.  

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 10/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 26/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: