Manylion y penderfyniad

Local Government & Elections (Wales) Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present an update on the Local Government & Elections Bill

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Dywedodd fod y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ac ei fod bellach yn Ddeddf.  Pwrpas yr adroddiad oedd amlygu cynnwys allweddol y Ddeddf ac i’r Cyngor nodi’r goblygiadau cyfansoddiadol (diwygiad etholiadol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a chyfranogiad y cyhoedd, er enghraifft) a goblygiadau eraill (creu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu er enghraifft) a’r cynlluniau mewnol ar gyfer gweithredu.  Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod rhai o’r newidiadau yn rhai a oedd i’w gwneud yn syth nid oedd amserlen eto i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau eraill.Darparodd ddiweddariad bras ar y CBC a dywedodd fod ymateb yr Awdurdod ynghlwm wrth yr adroddiad, a diwygiad etholiadol a gofynnodd i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gyflwyno’r adroddiad.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod rhaid i’r Awdurdod, yn ddarostyngedig i ddechrau, weithredu’r Ddeddf yn y ffordd orau bosib’ i weddu amgylchiadau lleol. Adroddodd ar feysydd allweddol y Ddeddf, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a oedd yn gofyn bod y Cyngor yn gwneud penderfyniad, ac a fyddai’n effeithio ar aelodau’n uniongyrchol neu’n berthnasol i’w rôl strategol. Esboniodd y Prif Swyddog ei fod wedi sefydlu gweithgor i drefnu cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf a fyddai’n cyflwyno adroddiadau cyfnodol ar gynnydd i aelodau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad gyda’r diwygiad bod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau bellach yn Ddeddf. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn croesawu’r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf o ran yr etholfraint a oedd yn galluogi unigolion 16 ac 17 mlwydd oed i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Cyngor Sir a Chymuned/Tref ym mis Mai 2022, a gwella hygyrchedd y cyhoedd i gyfarfodydd llywodraeth leol. Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon yngl?n â’r trefniadau craffu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a, gan gyfeirio at greu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, mynegodd bryder na fyddai Aelod yn cadeirio’r Pwyllgor ac fe wnaeth sylw ar ddylanwad cynyddol aelodau lleyg.     

 

Eiliodd y Cynghorydd Thomas yr argymhellion.  Dywedodd ei bod hefyd wedi mynegi pryderon yngl?n â chreu CBC a chyfeiriodd at ymateb yr Awdurdod i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell gyda’r safbwynt a fynegwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a mynegodd bryderon pellach yngl?n â’r dewis i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol yn y dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon yngl?n â chreu CBC a threfniadau craffu.  Gan gyfeirio at ystyriaeth flaenorol ar CBC, gofynnodd a oedd unrhyw ymgynghoriadau pellach wedi cael eu cynnal rhwng 28 Ionawr 2020 a 18 Tachwedd 2020 ac a oedd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 15 Rhagfyr 2020, o unrhyw werth os oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i basio’r Bil ar 18 Tachwedd. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylw ar ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 mlwydd oed a dinasyddion tramor o dan ddiwygiadau etholiadol. Mynegodd bryder nad oedd ysgolion, oherwydd y pandemig, yn gallu codi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion o’u hawl i bleidleisio’n 16 mlwydd oed a’u hawl i gofrestru i bleidleisio o 14 mlwydd oed. Dywedodd fod angen i’r Awdurdod ac Aelodau gynorthwyo â chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion uwchradd lleol a chymunedau lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at adran 1.04 yr adroddiad a’r wybodaeth am y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (PSD), sy’n nodi yn hytrach na chael un neu ddau unigolyn yn cynrychioli pawb mewn ardal, bod ardaloedd mwy yn ethol tîm bychan o gynrychiolwyr, megis 4 neu 5. Dywedodd y byddai hyn yn arwain at wardiau mwy a fyddai’n cwmpasu ardal eang ac ni fyddai’n gweithio.  

Mewn ymateb i’r cwestiynau a’r sylwadau a wnaed, dywedodd y Prif Weithredwr y gellid ond mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn lleol os oedd y Cyngor yn pleidleisio o blaid hynny (ac yn unol â maint y bleidlais a oedd ei hangen).

 

Gan gyfeirio at y sylwadau gan y Cynghorydd Tudor Jones ar ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 oed, esboniodd y Prif Weithredwr fod oddeutu 50% o bobl ifanc wedi cofrestru hyd yma  a dywedodd y byddai’r Comisiwn Etholiadol yn cynnal Cyhoeddusrwydd cenedlaethol yng Nghymru. Roedd y Cyngor hefyd yn targedu pobl ifanc a byddai’n gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg ysgolion a cholegau lleol.  Wrth ymateb i bryderon am CBC gan y Cynghorydd Richard Jones, eglurodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau cenedlaethol parhaus yn cael eu cynnal ar fanylion eu gweithrediad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i’r materion a godwyd gan y Cynghorydd Chris Bithell mewn perthynas â chaniatáu i staff y Cyngor sydd mewn swyddi heb gyfyngiadau gwleidyddol sefyll mewn etholiad yn eu hawdurdod eu hunain, a’r risg ddilynol o beidio â chael eu hethol, a'r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones yn ymwneud â CBC.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon pellach yngl?n â CBC.  Cydnabu’r Prif Weithredwr y pwyntiau a wnaed ac awgrymodd efallai yr hoffai’r Cyngor ystyried ychwanegu argymhellion pellach i’r rhai yn yr adroddiad i fynegi pryderon yngl?n â sut y byddai CBC yn gweithio ac y dylai unrhyw reoliadau sy’n cael eu pasio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer CBC fodloni’r holl brofion a nodwyd yn ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad. Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid ychwanegu trydydd argymhelliad i’r adroddiad. Wrth eilio’r cynnig, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei bod wedi mynegi pryderon sawl gwaith am CBC yn ymwneud â dyblygiad a symud oddi wrth y sefyllfa leol.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Jones, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid diwygio’r ail argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn:   “Bod y Cyngor yn nodi goblygiadau cyfansoddiadol a goblygiadau eraill y Ddeddf, ac yn cefnogi cynlluniau mewnol ar gyfer eu gweithrediad yn ôl yr angen”.  Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones y diwygiad arfaethedig a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Carolyn Thomas. 

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Ian Roberts, yr un a gyflwynodd y cynnig gwreiddiol, os oedd yn cefnogi’r diwygiad. Derbyniodd y Cynghorydd Roberts y diwygiad arfaethedig a daeth yn gynnig parhaol.

 

Ar ôl pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Derbyn yr adroddiad briffio;

 

 (b)      Bod y Cyngor yn nodi goblygiadau cyfansoddiadol a goblygiadau eraill y Ddeddf, ac yn cefnogi cynlluniau mewnol ar gyfer eu gweithrediad yn ôl yr angen; ac

 

 (c)      Nid yw’r Cyngor yn cefnogi cynigion ar gyfer CBC fel ag y maent ar hyn o bryd ac mae’n ailadrodd y sylwadau a wnaed mewn ymateb i LlC ynghlwm wrth yr adroddiad ac yn gofyn bod unrhyw reoliadau pellach yn bodloni’r profion fel y nodwyd yr ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 10/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 26/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: