Manylion y penderfyniad

Flintshire Local Development Plan (LDP) Examination in Public Delegated Authority for Officers

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To seek Member’s views on, and agreement for a proposed scheme of delegation for officers to act on behalf of the Council should the Inspector propose changes arising out of the examination of the soundness of any aspect of the LDP during Examination hearing sessions.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i geisio barn Aelodau ar, a chytuno ar gynllun dirprwyo arfaethedig er mwyn i swyddogion weithredu ar ran y Cyngor os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau yn sgil archwiliad cadernid o unrhyw agwedd o’r CDLl yn ystod y sesiynau gwrandawiad a drefnwyd. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r archwiliad o’r CDLl yn dechrau ar 8 Mawrth 2021. Cynhaliwyd cyfarfod cyn-gwrandawiad ar 12 Ionawr ac roedd disgwyl y byddai amserlen ddrafft ar gyfer sesiynau’r gwrandawiad yn cael ei chyhoeddi yr wythnos hon ar wefan y CDLl (darperir y ddolen yn yr adroddiad).  

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ystyried bod y CDLl fel y cyflwynwyd yn gynllun cadarn, fodd bynnag, fe allai Arolygwyr gynnig newidiadau yn ystod y gwrandawiad. Eglurodd mai pwrpas y cynllun dirprwyo oedd i ganiatáu i swyddogion gytuno, mewn egwyddor, i’r Arolygydd wneud newidiadau i’r CDLl yn ystod sesiynau’r gwrandawiad mewn ymgynghoriad ag Aelodau, yn dibynnu ar natur a chwmpas y newidiadau a gynigir. Cynigiwyd dirprwyo newidiadau o natur ffeithiol neu deipograffyddol i’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth (neu, yn ei absenoldeb neu ei anallu i weithredu neu er hwylustod gweithredol, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio) ond byddai newidiadau mwy arwyddocaol, megis dileu dyraniad neu gyflwyno safle neu safleoedd newydd yn gofyn am ymgynghoriad gydag Aelodau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru yn argymell cymeradwyo cynllun dirprwyo o’r fath er mwyn i’r archwiliad allu gweithredu’n effeithlon. 

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw at baragraffau 1.05 a 1.06 yn yr adroddiad a’r wybodaeth yn Nhabl 1 sy’n nodi’r cynllun dirprwyo arfaethedig.   Dywedodd fod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi ystyried y cynigion yn y cynllun dirprwyo drafft mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd, ac yn dilyn diwygio’r cynllun roedd wedi’i argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.  Sicrhaodd yr Aelodau y byddai unrhyw newidiadau a oedd yn deillio o’r broses archwilio (o’r enw ‘Newidiadau Materion yn Codi’) yn cael eu cyfuno mewn dogfen ac yn destun proses ymgynghori gyhoeddus ar wahân dros gyfnod o 6 wythnos pan oedd sesiynau’r gwrandawiad wedi dod i ben. Rhoddodd sicrwydd y byddai digon o gyfle i Aelodau a’r cyhoedd ymateb i unrhyw newid arfaethedig fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol hwnnw. Argymhellodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo, fel y nodwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad, yn cael ei fabwysiadau i roi fframwaith i swyddogion weithredu ar Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau i’r Cynllun.

 

Cynigodd y Cynghorydd Chris Bithell gymeradwyo’r argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gan siarad o blaid yr argymhellion, dywedodd eto fod y Cynllun yn gadarn fel ag yr oedd. Cyfeiriodd eto at y cynigion a’r trefniadau ar gyfer awdurdod dirprwyedig fel y manylwyd yn Nhabl 1 a dywedodd y byddai defnyddio’r cynllun yn ddewis olaf (gan nad oedd y Cyngor yn ceisio unrhyw newidiadau), os nad oedd unrhyw agwedd o’r cynllun neu dystiolaeth ategol, am ba bynnag reswm, yn gadarn yn ôl yr Arolygydd.Dywedodd hefyd nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw broblem sylfaenol gyda’r CDLl fel y cyflwynwyd.

 

Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers yr argymhellion.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at grynodeb gweithredol yr adroddiad a dywedodd fod y cyfeiriad at “newidiadau mwy arwyddocaol” yn y trydydd paragraff yn groes i’r cyfeiriad at “newidiadau â pheth arwyddocâd” yn Nhabl 1 ac fe awgrymodd y dylid defnyddio’r geiriad yn Nhabl 1 er cywirdeb. Gan gyfeirio at yr un paragraff, dywedodd fod cyfeiriad at “geisio cytundeb gan Aelodau Uwch o’r Cyngor” a gan groesgyfeirio at adran 1.05 o’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Peers fod ymateb Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at gr?p aelodau uwch a oedd, yn ei feddwl ef, yn golygu’r Gr?p Strategaeth Cynllunio. 

 

Ategodd y Cynghorydd Peers y sicrwydd a roddwyd i Aelodau bod yr Arolygydd yn ceisio cytundeb mewn egwyddor ac na fyddai’r cytundeb yn difreinio aelodau lleol ar gyfer y gymuned oherwydd newidiadau’n cael eu cyhoeddi fel “Newidiadau Materion yn Codi”, a fyddai’n caniatáu i sylwadau gael eu gwneud yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Gan gyfeirio at Dabl 1 a’r awdurdod dirprwyedig arfaethedig ar gyfer y categori ‘Newidiadau â Pheth Arwyddocâd’, dywedodd y Cynghorydd Peers y byddai Aelodau Lleol yn cael eu hysbysu o unrhyw newidiadau arwyddocaol er gwybodaeth ac yn y categori ‘Newidiadau Sylfaenol’, byddai aelodau lleol yn cael eu hysbysu o unrhyw newidiadau sylfaenol er gwybodaeth.   Cynigodd y dylid diwygio’r geiriad i gynnwys fod unrhyw wybodaeth berthnasol gan yr aelod lleol yn cael ei hystyried. Cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell gyda’r newid arfaethedig a oedd wedyn yn sail cynnig gwreiddiol i'w drafod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Sharps at gwestiwn a ofynnodd yn ystod ystyriaeth flaenorol o’r CDLl yn ymwneud â dyfodol Neuadd y Sir a dywedodd, mewn ymateb i’r ateb a dderbyniodd, ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y CDLl yng nghyfarfod y Cyngor. Mynegodd nifer o bryderon ynghylch y goblygiadau o gyflwyno’r cynllun o bwerau dirprwyedig arfaethedig ac ymbellhau oddi wrth reolaeth Aelodau.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr o blaid diwygiad gan y Cynghorydd Peers ac awgrymodd y gellid ei wneud yn fwy manwl, er mwyn hysbysu aelodau lleol, ymgynghori â nhw ac ystyried eu safbwyntiau mewn perthynas â newidiadau arwyddocaol a newidiadau sylfaenol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin ei fod o’r farn y dylai aelodau lleol fod yn rhan o newidiadau â pheth arwyddocâd ac unrhyw newidiadau sylfaenol. Awgrymodd y dylid cryfhau’r diwygiad i nodi bod rhaid ymgynghori ag aelod lleol a bod rhaid iddo fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad terfynol.  

 

Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad pellach mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan Aelodau ar y mater o ymgynghori gydag aelodau lleol ac aelodau wardiau cyfagos a oedd wedi’u heffeithio gan gynnig. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Dolphin ddiwygiad pellach a dywedodd y dylai’r aelod lleol fod yn rhan o’r awdurdod dirprwyedig arfaethedig ac y dylid ychwanegu hyn at y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers.  Dywedodd y Prif Swyddog fod rhaid, am resymau cyfreithiol, gwneud dirprwyaeth i’r Pwyllgor neu i Swyddog mewn ymgynghoriad ag Aelodau. Cyfeiriodd at y cynnig yn Nhabl 1, sef bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Rheolwr Gwasanaeth Strategaeth mewn ymgynghoriad llawn.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Tony Sharps ynghylch Neuadd y Sir, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod safle Neuadd y Sir o fewn ffin anheddiad Yr Wyddgrug, fodd bynnag, nid oedd eto’n barod fel safle ar gyfer datblygiad masnachol neu breswyl ac roedd gwaith yn mynd rhagddo mewn perthynas â hyn.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod safle Neuadd y Sir ym mherchnogaeth y Cyngor ac y byddai’r Cyngor yn pennu ei ddefnydd yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), yn dilyn y safbwyntiau a fynegwyd gan Aelodau byddai’r awdurdod dirprwyedig arfaethedig yn Nhabl 1 yr adroddiad ar gyfer y categori ‘Newidiadau â Pheth Arwyddocâd’ yn cael ei ddiwygio i’r isod:“Ymgynghorir ag Aelodau Lleol ac aelodau wardiau cyfagos ynghylch unrhyw newid arwyddocaol a bydd eu barn yn cael ei hystyried.” Cadarnhaodd hefyd y byddai’r awdurdod dirprwyedig arfaethedig yn Nhabl 1 ar gyfer y categori Newidiadau Sylfaenol yn cael ei ddiwygio’n rhannol i’r canlynol: “Ymgynghorir ag Aelodau Lleol ac aelodau wardiau cyfagos ynghylch unrhyw newid sylfaenol a bydd eu barn yn cael ei hystyried.” Dywedodd y Prif Swyddog ei fod yn llwyr gefnogi’r diwygiad. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Chris Bithell yr argymhellion yn yr adroddiad, fel y'i diwygiwyd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Peers. Cymeradwywyd hyn yn dilyn cynnal pleidlais ar y mater.

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Tony Sharps yn erbyn yr argymhellion. 

 

Bu i’r Cynghorwyr Dennis Hutchinson, Colin Legg a David Williams ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau uchod i Dabl 1, cymeradwyo’r cynllun dirprwyo a argymhellwydfel y manylwyd yn yr adroddiad i roi fframwaith i swyddogion weithredu ar Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol os fydd yr Arolygydd yn cynnig newidiadau i’r Cynllun.

 

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 10/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 26/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: