Manylion y penderfyniad
Governance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Latham ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y materion Llywodraethu diweddaraf ar gyfer y Gronfa gan gynnwys newid bychan i rai amserlenni yn y cynllun busnes. Nododd fod y Gronfa yn cynnal gwiriad cydymffurfiaeth yn erbyn gofynion Y Rheoleiddiwr Pensiynau, a bod Mrs Fielder a Mrs Williams wedi ei adolygu’n ddiweddar gyda goruchwyliaeth y Bwrdd.Pan nad oedd y Gronfa’n cydymffurfio, cymerwyd camau gweithredu lle roedd yn briodol.
O ran risgiau’n ymwneud â llywodraethu, roedd y rhai oedd o fewn rheolaeth uniongyrchol y Gronfa’n gymharol isel. Roedd rhai meysydd risg-uchel i’r Gronfa, yn ymwneud â ffactorau allanol fel newidiadau mewn rheoleiddio ac effaith COVID-19.
Roedd Mr Latham yn dymuno mesur barn y Pwyllgor o ran amseru dyddiau hyfforddiant y Pwyllgor i’r dyfodol.Cytunodd y Pwyllgor i’r gwaith o drefnu’r dyddiau hyfforddiant gychwyn cyn gynted â phosibl ac felly cadarnhaodd Mrs McWilliam y byddai mewn cysylltiad gyda rhai dyddiadau posibl ar gyfer y sesiynau hyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Bateman a oedd y Gronfa wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran recriwtio arbenigwr ar y we.Cadarnhaodd Mrs Williams fod arbenigwr wedi ei benodi’n fewnol o adran arall o’r Cyngor ble roeddent wedi bod yn rhan o’r rhaglen Hyfforddi Graddedigion.Pwysleisiodd y penodiad cadarnhaol ac edrychai ymlaen at y profiad y gallent ei gynnig i’r tîm.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad.
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r amserlenni ar gyfer tasgau llywodraethu yn y cynllun busnes fel yr amlinellir ym mharagraff 1.01.
(c) Cytunodd y Pwyllgor y dylid trefnu’r sesiynau hyfforddi nesaf yngl?n â materion pwnc penodol fel y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.08.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents:
- Governance Update PDF 134 KB
- Enc. 1 for Governance Update PDF 132 KB
- Enc. 2 for Governance Update PDF 180 KB
- Enc. 3 for Governance Update PDF 97 KB
- Enc. 4 for Governance Update PDF 81 KB
- Enc. 5 for Governance Update PDF 53 KB
- Enc. 6 for Governance Update PDF 51 KB
- Enc. 7 for Governance Update PDF 153 KB