Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Holodd y Cynghorydd Bateman a oedd is-gronfa ecwiti’r farchnad ddatblygol Partneriaeth Pensiynau Cymru, wedi ei lansio eto.Cadarnhaodd Mr Latham fod mwy o oedi ac felly bod disgwyl i’r dyddiad lansio fod ym mis Medi 2021. Byddai hyn yn cael ei drafod yn nes ymlaen ar yr agenda.
Gwnaeth Mr Hibbert bwynt y gallai diystyru ffactorau megis newid yn yr hinsawdd wrth fuddsoddi asedau’r Gronfa, fod yn niweidiol oherwydd y gall materion ESG gael effaith negyddol ar berfformiad buddsoddiadau. Felly, yn ei farn o, er mwyn i’r Pwyllgor gynnal eu dyletswyddau ymddiriedol, mae’n bwysig fod ffactorau o’r fath yn cael eu hystyried wrth fuddsoddi asedau’r Gronfa.
PENDERFYNWYD:
Derbyn, cymeradwyo ac arwyddo cofnodion y cyfarfod ar 25 Tachwedd 2020 gan y Cadeirydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/02/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: