Manylion y penderfyniad

Ash Dieback surveys update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a progress report

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith i liniaru’r risgiau’n gysylltiedig â’r clefyd, yn dilyn y gwaith o archwilio’r coed a effeithiwyd sydd ger priffyrdd yn ystod Haf 2020.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad oedd yn rhoi manylion sut oedd Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â chlefyd coed ynn yn 2020/21 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, er mwyn cymedroli a rheoli’r risg yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn, cynhaliwyd cyfres o arolygon i asesu dosbarthiad ac i ddosbarthu’r clefyd ar goed ynn ar ochr ffyrdd sy’n flaenoriaeth a ffyrdd eilaidd. Roedd rhaglen torri coed wedi dechrau ar goed yr oedd Cyngor Sir y Fflint yn berchen arnynt, a chysylltwyd â thirfeddianwyr â choed oedd wedi heintio i dynnu sylw at glefyd coed ynn, gyda’r disgwyliad y byddent yn rheoli eu coed eu hunain i liniaru’r risgiau. I grynhoi, amlinellodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y camau nesaf fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Holodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson os oedd unrhyw broblemau wedi codi o ran tirfeddianwyr oedd yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros glefyd coed ynn ar y coed oedd ar berthi oedd yn ffinio â phriffyrdd, a gofynnodd sut oedd perchnogaeth o’r tir a’r coed yn cael ei gadarnhau. Eglurodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol bod ymholiadau’n cael eu gwneud â’r tirfeddiannwr, y Gofrestrfa Tir ac yn lleol i benderfynu ar berchnogaeth. Mewn rhai achosion pan oedd cyfrifoldeb yn cael ei rannu, neu dir heb ei gofrestru o ran coed ar y ffin, byddai lefel y risg yn flaenoriaeth o ran rheoli coeden oedd wedi’i heintio.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r swyddogion yn eu gwaith parhaus yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 12/05/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: