Manylion y penderfyniad
Education & Youth Self Evaluation Report 2020/2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To provide details of the Portfolio’s review and evaluation of services during 2020/2021.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad gan egluro bod y Cyngor wedi cynnal hunanwerthusiad blynyddol o'i wasanaethau addysg. Fel arfer, caiff ei hysgrifennu yn unol â’r fframwaith ar gyfer arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Estyn, ond wrth bod y fframwaith hwn wedi’i ohirio yn sgil Covid-19, cyflwynwyd yr adroddiad mewn fformat gwahanol gyda phob maes gwasanaeth yn canolbwyntio ar ei waith dros y 12 mis diwethaf a sut yr oedd wedi ymateb ac addasu i'r argyfwng iechyd parhaus.
Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod pob adran o’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r maes gwasanaeth, sut yr oedd wedi addasu, a’i flaenoriaethau datblygu parhaus a fyddai’n cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun y Cyngor a’r Cynllun Busnes Portffolio ar gyfer 2021/22. Ble bu cynnydd yn bosib yn erbyn argymhellion Estyn yn dilyn arolwg o Wasanaethau Addysg yn Sir y Fflint yn 2019, adlewyrchwyd y rhain ym mhob adroddiad gwasanaeth.
Roedd Estyn wedi parhau i gadw cysylltiad rheolaidd ag ysgolion a swyddogion addysg er bod pob un o'r fframweithiau arolygu ffurfiol ar gyfer ysgolion a gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn parhau i fod wedi’u gohirio. Comisiynwyd Estyn gan Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o waith awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020. Roedd yr adroddiad adborth yn seiliedig ar gyfarfodydd dros y we gyda Swyddogion Addysg, yr Aelod Cabinet Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a sampl o benaethiaid ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Roedd yr adroddiad adborth wedi’i atodi i adroddiad y Cabinet, ac yn amlinellu ymateb cyflym ac effeithiol y Cyngor i gefnogi plant ac ysgolion o ddechrau’r pandemig. Cydnabu’r arweiniad cryf gan Dîm Ymateb i Argyfwng y Cyngor, a’r Portffolio Addysg. Roedd yn tynnu sylw at gryfderau’r dull cydweithredol a rennir ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid allanol, e.e. GwE, er mwyn addasu gwasanaethau mewn modd effeithiol i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod yr argyfwng cenedlaethol. Nododd hefyd yr adolygiad trylwyr o ymateb y Cyngor drwy waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.
Roedd yr adroddiad yn gadarnhaol iawn, ac nid oedd yn nodi unrhyw argymhellion ar gyfer gwella ymhellach.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog a’i thîm, a’r Uned Gludiant Integredig, am y gwaith a oedd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wedi iddynt wynebu heriau sylweddol. Ategodd yr holl Aelodau’r sylwadau hynny, gan hefyd ganmol y staff addysgu a chefnogi a oedd wedi parhau i ddarparu addysg wyneb yn wyneb ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi cynnwys yr adroddiad hunanwerthuso; a
(b) Nodi'r adroddiad thematig cadarnhaol a gynhaliwyd gan Estyn yngl?n â gwaith y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021
Dyddiad y penderfyniad: 20/04/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/04/2021 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/04/2021
Accompanying Documents: