Manylion y penderfyniad
Update on the Implementation of the Local Government & Elections Act
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To apprise the Council of ongoing implementation of the Act.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i arfarnu’r Cyngor o weithrediad cyfredol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dilyn yr eitem a dderbyniwyd ym mis Ionawr. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithredu’r tri Gorchymyn Cychwyn a gyflwynwyd erbyn mis Mai 2022. Ers cyhoeddi’r adroddiad, cynhyrchwyd yr Ail Orchymyn Cychwyn sy’n ymwneud â threfn perfformiad a llywodraethu newydd ar gyfer prif Gynghorau a’r Trydydd Gorchymyn Cychwyn yn dod â darpariaethau ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau Awdurdodau Lleol i rym. Byddai newidiadau pellach fyddai’n deillio o’r ddeddfwriaeth yn cael eu hadrodd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor Sir.
Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Carolyn Thomas.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr amserlen ar gyfer yr Adolygiad o Ffiniau Sirol.
Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am y drafodaeth ym mis Ionawr ar agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth a phenderfyniad y Cyngor i beidio â chefnogi cynigion ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel y maent ar hyn o bryd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod consensws rhanbarthol wedi arwain at oedi mewn gweithrediad er mwyn caniatáu mwy o waith ar fel y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gweithio. Byddai diweddariad ar y sefyllfa yn cael ei hadrodd i gyfarfod yn y dyfodol.
Ar ôl cael ei gyflwyno a’i eilio, cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor yn nodi’r amserlen gweithrediad ac yn cydnabod y bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno maes o law.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 03/08/2021
Dyddiad y penderfyniad: 01/04/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: