Manylion y penderfyniad

Update on Council funding for schools

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To outline to the Committee the proposal for distributing the additional £1m allocated to secondary schools in the 2021/22 budget.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i amlinellu i’r Pwyllgor y cynnig i rannu’r £1m ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22.  Oherwydd amseriad a diben y cyllid, bydd y Cyngor yn dyrannu’r cyllid yn 2021/22 fel dyraniad atodol. 

 

            Yn arolygiad Estyn o’r Awdurdod Lleol yn 2019, mynegwyd pryderon am natur hirdymor y diffygion yng nghyllideb rhai ysgolion uwchradd, ac fel rhan o’u hadroddiad arolygu, un o’r prif argymhellion oedd y dylai’r Awdurdod gymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion.  Roedd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gael yn bennaf er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i’r ysgolion hynny sydd â phroblemau ariannol.       

 

Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd datrysiad ariannol ar gael i ymdrin â’r diffygion, ond drwy weithio’n galed i osod cyllideb 2021/22, ynghyd ag edrych ar y cyfleoedd yn setliad Llywodraeth Cymru i ail alinio cyllid ychwanegol i Ysgolion, cafwyd datrysiad i ddarparu cyllid ychwanegol i ysgolion uwchradd.  Wrth esbonio sut y dyrannwyd y cyllid, soniodd am y pryderon a glywodd rhai Penaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion.  Dywedodd fod yr Awdurdod yn cydnabod bod cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly byddai cyfran o’r cyllid yn mynd i’r ysgolion hynny nad oedd wedi cwrdd â’r egwyddorion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei gefnogaeth i’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr a dywedodd fod y Cyngor Sir yn llwyr gefnogi’r cyllid ychwanegol arfaethedig.  Soniodd am y sefyllfa heriol sy’n wynebu ysgolion o ganlyniad i gyni ariannol ond dywedodd fod gan bobl ifanc ar draws Sir y Fflint yr hawl i gael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys.   

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na ddylai pobl ifanc mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint ddioddef oherwydd amrywiaeth o ffactorau cymhleth iawn sydd wedi arwain at y diffygion hyn.  Rhoddodd esboniad manwl o’r egwyddorion dyrannu, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys ffactorau amddifadedd.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion a fydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Er bod hyn i’w groesawu, dywedodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y Cyngor yn manteisio i’r eithaf ar gyllideb y Cyngor er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffygion ysgolion.    

 

            Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Jim Connelly, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Fflint, a oedd hefyd yn bresennol, i wneud sylw ar y cynnig.

               

            Diolchodd Mr Jim Connelly i’r Cadeirydd am y cyfle i fynychu’r cyfarfod a chyfarch y Pwyllgor.  Croesawodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r Prif Swyddog, a dywedodd eu bod wedi esbonio rhywfaint o sail resymegol y cynnig a phe bai Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd wedi derbyn yr wybodaeth hon o flaen llaw, byddai wedi lleddfu rhywfaint ar y pryderon.  Gofynnodd a ellid gwella’r broses ymgynghori yn y dyfodol a soniodd am y penderfyniadau anodd a wnaed gan bob ysgol yn Sir y Fflint, o ganlyniad i gyni ariannol a chwtogi ar gyllidebau ysgolion.  Dywedodd ei fod yn deall yn llwyr fod y Cyngor wedi ceisio rhoi cymaint o arian â phosibl i ysgolion ar draws Sir y Fflint ond pryderai y byddai cynnig cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â’r diffygion hyn yn gallu gosod cynsail beryglus i ysgolion yn y dyfodol wrth geisio rheoli’r diffygion hyn.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at sut y cyfrifwyd y cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â diffygion mewn ysgolion uwchradd a dywedodd fod pryderon ynghylch sut gallai’r cyllid hwn barhau yn y dyfodol.  Pe bai’r cyllid yn parhau, dywedodd y byddai dwy o’r ysgolion yn clirio eu diffygion yn gymharol gyflym ond byddai angen arian ychwanegol ar yr ysgolion eraill am nifer o flynyddoedd.  Esboniodd mai tybiaeth yw hyn gan nad yw’r adroddiad yn ymdrin â’r mater.  Dywedodd y dylid rhoi cydnabyddiaeth i bob ysgol yn Sir y Fflint am weithio’n galed i fynd i’r afael â’u diffygion ac aros o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd ar eu cyfer, ac roedd yn cydnabod bod Sir y Fflint yn parhau i fod yn Gyngor sy’n cael ei danariannu.  Roedd yn cefnogi dyrannu cyllid yn rheolaidd ac awgrymodd y gellid ystyried hyn fel rhan o’r fformiwla ariannu ysgolion.  Teimlai hefyd y dylid ystyried safbwyntiau Penaethiaid Uwchradd wrth adolygu cyllid ysgolion uwchradd yn y dyfodol.

 

            Soniodd y Cadeirydd y byddai’r cynnig yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion.  Croesawodd gadarnhad y Prif Weithredwr ynghylch tegwch ac mai’r nod yw ymdrin â’r diffygion drwy roi symiau tybiannol i ysgolion.  Ychwanegodd fod yr holl ysgolion o dan bwysau sylweddol a’i fod yn falch fod y Cyngor yn gallu cynnig mwy o arian i fynd i’r afael â’r diffygion.  Cyfeiriodd at y modd y mae Cynghorau’n cael eu tanariannu a’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr y dylid dyrannu isafsymiau a fyddai’n galluogi Cynghorau i ddarparu eu gwasanaethau, yn ogystal â dyraniad ar ben hynny i gwrdd ag anghenion amddifadedd ayb ac, os felly, dylid dyrannu’r isafswm posibl i bob ysgol ac yna rhoi swm ychwanegol ar ben hynny.

 

            O safbwynt tegwch, dywedodd yr Arweinydd na chredai y dylai maint a hyfywedd ysgol gael eu hystyried wrth feddwl am y ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei chynnig i blant ar draws Sir y Fflint.  Esboniodd fod llawer o waith craffu wedi’i gynnal ar ddiffygion ysgolion a chyfeiriodd at y gwaith a wnaed ganddo ef a’r Prif Swyddogion, ynghyd â’r tîm cyllid, i ystyried yr holl opsiynau er mwyn datrys hyn.  Pwysleisiodd ei sylwadau blaenorol a dywedodd fod yr Aelodau wedi gwneud y penderfyniad cywir yn y Cyngor Sir er mwyn sicrhau mynediad i bob plentyn at yr un cwricwlwm sylfaenol. 

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr, wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan Mr. Connolly, nad oedd eisiau gweld sefyllfa lle byddai ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.  Roedd yn gwerthfawrogi’r holl waith a wnaed gan y Penaethiaid a’r staff i fantoli cyllidebau a cheisio lleihau eu diffygion.  Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Mackie, esboniodd pe bai’r cyllid ychwanegol wedi ei rannu rhwng pob Ysgol, ni fyddai hynny’n cael unrhyw effaith ar leihau diffygion Ysgolion.  Wrth gynyddu’r gwariant fesul disgybl, ychwanegodd nad yw’n bosibl i gadarnhau beth fydd setliadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ond bydd y Cyngor yn parhau i bwysleisio’r achos bod angen mwy o gyllid er mwyn cwrdd â’r her o ymdrin â diffygion Ysgolion.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Weithredwr am ei sylwadau a dywedodd ei fod yn ddiolchgar iawn am y cyllid ychwanegol i ysgolion a fyddai’n fuddiol iawn.  Er ei fod yn credu y gwnaed pob ymdrech gan y Cyngor dros nifer o flynyddoedd i gynnal cyllidebau ysgolion, gwnaed toriad o 2% i’r gyllideb addysg yn 1997 ac nid yw’r arian hwn wedi dychwelyd o gwbl. 

 

            Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau am ymgynghori, ac yn ystod cyfarfod gyda Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd dywedodd eu bod yn cydnabod y gallai’r cyfathrebu fod yn well ynghylch y cynnig i ddarparu cyllid ychwanegol, ond cyfeiriodd at y berthynas gadarnhaol a thryloyw sy’n bodoli gyda Phenaethiaid a chydweithwyr.  Cyfeiriodd at y broses gadarn i gefnogi ysgolion sydd â diffyg yn eu cyllideb a bod y Cyngor wedi cryfhau’r protocol ynghylch diffyg trwyddedig yn dilyn yr argymhellion gan Estyn.  Dywedodd fod nifer sylweddol o ffactorau dros gyfnod hir wedi arwain at y diffygion hynny a bod y Penaethiaid wedi gweithio’n andros o galed i geisio eu rheoli. 

 

Wrth ymateb i sylwadau ynghylch heriau a chraffu, dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn croesawu’r her gan y Pwyllgor.   

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am gadarnhad na fydd y cyllid ychwanegol mynd yn syth i’r Ysgolion, ond y bydd yn cael ei ddefnyddio i leihau’r diffygion sydd gan y Cyngor.  Awgrymodd y dylid newid y geiriad yn argymhelliad (a) i “Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r egwyddorion fel sylfaen i ddyrannu’r £1m o gyllid ychwanegol i leihau diffygion ysgolion uwchradd yn 2021/22, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad”.  Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Jones am y sylw defnyddiol.  Gofynnodd am arweiniad gan y Pwyllgor ynghylch y camau a gymerir o un flwyddyn i'r llall yn y dyfodol yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor sy’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, er mwyn cyflwyno achos ar gyfer buddsoddiadau tebyg o un flwyddyn i'r llall, gan dybio bod y setliad gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i hynny ddigwydd.    

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fynychu’r cyfarfod ac am ateb y cwestiynau gan y Pwyllgor.  Awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Mrs. Lucy Morris a ymddeolodd o’r Cyngor yn ddiweddar, i ddiolch iddi am y gefnogaeth a roddodd i ysgolion yn ystod cyfnod ariannol heriol, yn ogystal â’r gefnogaeth a roddodd i’r Pwyllgor.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.   

 

            Yn dilyn trafodaeth, cafodd yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad, ynghyd â’r newid i argymhelliad 1 a awgrymwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones, a chyda’r argymhelliad ychwanegol canlynol, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Tudor Jones a Gladys Healey:-

·         Bod y Pwyllgor yn cefnogi bwriad y Cyngor i godi swm yr arian i gefnogi ysgolion o un flwyddyn i'r llall, yn unol â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r egwyddorion fel sylfaen i ddyrannu’r £1m o gyllid ychwanegol i leihau diffygion ysgolion uwchradd yn 2021/22, fel yr amlinellir yn yr adroddiad;

 (b)      Nodi’r dyraniadau, fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad; a

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi bwriad y Cyngor i godi swm yr arian i gefnogi ysgolion o un flwyddyn i'r llall, yn unol â Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

 

Awdur yr adroddiad: Amanda Davidson

Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: