Manylion y penderfyniad
Flintshire Community Endowment Fund - Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To support the work of the Community Foundation in the presentation of their Annual Report.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yr adroddiad blynyddol ar waith a gyflawnwyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wrth reoli Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint (y Gronfa) ar ran y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad Cronfa’r Degwm Deiran Clwyd.
Cyflwynwyd yr Aelodau i Andrea Powell – Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Brif Weithredwr) Sefydliad Cymunedol yng Nghymru – a roddodd gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:
· Sefydliad Cymunedol Cymru – y wybodaeth ddiweddaraf
· Hanes a Throsolwg o’r Gronfa - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint / Cronfa’r Degwm Deiran
· Perfformiad ariannol
· Crynodeb o’r grantiau a ddyfarnwyd
· Astudiaethau achos
· Y dyfodol
Ers yr adroddiad blaenorol ac fel ymateb uniongyrchol i’r argyfwng cenedlaethol, roedd Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth dros £5m i fwy na 1,000 o unigolion a sefydliadau ar draws Cymru. Byddai gwefan y Cyngor yn cael ei diweddaru o ran y wybodaeth ar y tair cronfa sydd ar gael yn benodol i drigolion Sir y Fflint - Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint, Cronfa’r Degwm Sir y Fflint a Chronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y byddai hyrwyddo’r wybodaeth gywir o gymorth i aelodau etholedig godi ymwybyddiaeth ymysg cymunedau. Darparodd Andrea Powell fanylion ar gymhwyster mewn perthynas ag ysgolion. Byddai’r manylion cyswllt a sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, rhoddwyd eglurhad ar y dull o reoli buddsoddiadau er mwyn gwneud yr elw mwyaf. Cafodd yr Aelodau hefyd eu hysbysu yngl?n â hyrwyddo cronfeydd drwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol amrywiol.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Carolyn Thomas am gymorth i grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau, cadarnhaodd Andrea Powell fod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint wedi’i gynrychioli ar y panel grantiau. Er bod y swm cyfyngedig o gyllid yn heriol, nodwyd ffrydiau cyllid eraill lle y bo’n bosibl.
Rhoddwyd eglurhad i’r Cynghorydd Joe Johnson ar gyllid ar gyfer yr Eglwys a grwpiau cymunedol yn sefydlu banciau bwyd yn ystod y pandemig.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Paul Shotton.
PENDERFYNWYD:
Bod Aelodau’n cefnogi gwaith y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar ran y Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 24/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 11/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: