Manylion y penderfyniad
Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme and the Development of the County’s Core Cycle Network
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Information Only
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme
and the Development of the County’s Core Cycle
Network
Penderfyniadau:
Esboniodd y Rheolwr Trafnidiaeth mai amcan cychwynnol yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar Gynllun y Llwybr Beicau o’r Wyddgrug i Frychdyn, fodd bynnag, oherwydd y diddordeb a fynegwyd yn ystod y cyfnod Craffu ar ddyheadau Teithio Llesol strategol ehangach y Cyngor, ehangwyd ar yr adroddiad i gynnwys diweddariad ar gynnydd a wnaed i ddatblygu Rhwydwaith Llwybrau Beiciau ‘craidd’ y Sir. Cyfeiriodd hefyd at y cyfle i ehangu cylch gorchwyl Cynllun Llwybr Beicau yr Wyddgrug i Frychdyn i gynnwys Caer fel pen draw’r daith ac i ofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i gyflwyno cais i ailfrandio’r cynllun a’i alw yn ‘Cynllun Llwybr Strategol yr Wyddgrug i Gaer’ fel cais Teithio Llesol Strategol i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir a rhoddodd drosolwg byr o’r rhwydwaith llwybrau beiciau cenedlaethol a diweddariad ar gynllun beicio’r Wyddgrug. Esboniodd fod datblygu rhwydwaith beicio strategol fel yr amlinellir yn gwneud teithio llesol yn ddewis ymarferol a oedd yn galluogi pobl i deithio i’w gwaith, a chael mynediad at gyfleusterau hamdden a thwristiaeth, nid yn unig yn y Sir ond yn Lloegr hefyd. Ategodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) y sylwadau a fynegwyd gan y Rheolwr Trafnidiaeth o ran y cyfleoedd a ddaw yn sgil datblygu rhwydwaith beicio cenedlaethol a dywedodd mai’r gobaith oedd y byddai’n dod mor gyfarwydd ac yn cael ei ddefnyddio i’r un graddau â’r map ffordd yn Sir y Fflint.
Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle bryderon yngl?n â thorri coed yn ardal Aston Hill. Hefyd, mynegodd ei bryderon nad oedd unrhyw rwystrau i amddiffyn defnyddwyr y llwybr beiciau ar Aston Hill. Roedd y Prif Swyddog yn derbyn y pryderon a fynegwyd a dywedodd y byddai’n siarad yn uniongyrchol gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd i sicrhau bod yr un broses ymgynghorol yn cael ei dilyn â’r un a ddilynwyd gan yr Awdurdod.
Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r swyddogion am eu gwaith ar y strategaeth drafnidiaeth. Roedd yn cytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd Hardcastle ar yr angen i’r Asiantaeth Cefnffyrdd ymgynghori’n llawn.
Hefyd, mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei ddiolchiadau i swyddogion am eu gwaith caled ar Rwydwaith Llwybrau Beiciau Craidd y Sir, a dywedodd hefyd ei fod am gydnabod cymorth a chydweithrediad Alistair Stubbs, Pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, ar y cyngion ar gyfer datblygu. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson bryderon yngl?n â phriffordd leol yn ei Ward. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a wnaed a dywedodd y byddai’n rhoi ymateb mwy manwl i’r Cynghorydd Hutchinson yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion ar gyfer creu llwybr cyswllt o Fwcle at lwybr beicio dynodedig ar y ffordd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y Llwybrau Beiciau Cyswllt Strategol rhwng yr Wyddgrug a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gofynnodd am eglurder o ran sut byddai’n bosibl cael mynediad ar draws Pont Sir y Fflint os mai dyma’r llwybr bwriedig. Siaradodd o blaid y cynigion lleol pellach a oedd yn cael eu croesawu. Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y broses ymgynghori a oedd yn cael ei chynnal ar y cynigion ar gyfer y llwybr cyswllt rhwng Sandycroft a Brychdyn, a’r llwybr cyswllt rhwng yr Wyddgrug a’r Fflint a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ar Gynllun Llwybrau Beicio Strategol yr Wyddgrug i Frychdyn, gan gynnwys datblygu cynlluniau Teithio Llesol Strategol y Sir ar Rwydwaith Llwybrau Beiciau Craidd y Sir; a
(b) Nodi’r cyfle i ymestyn cylch gorchwyl Cynllun Llwybr Beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn i gynnwys Caer fel pen draw’r llwybr a chefnogi’r cynnig i ailfrandio a chyflwyno ‘Cynllun Llwybr Beicio Strategol yr Wyddgrug i Gaer’ fel cais Teithio Llesol Strategol y Cyngor i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol:
- Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme and the Development of the County’s Core Cycle Network PDF 120 KB
- Appendix 1 - Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme and the Development of the County’s Core Cycle Network PDF 3 MB
- Appendix 2 - Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme and the Development of the County’s Core Cycle Network PDF 104 KB