Manylion y penderfyniad
Capital Strategy Including Prudential Indicators 2021/22 to 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the Capital Strategy 2021/22
– 2023/24 for approval
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Gyfalaf y Cyngor. Roedd yn egluro’r gofyniad ar gyfer y Strategaeth, ei brif amcanion a chynnwys pob un o’i adrannau.
O dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd gofyn i awdurdodau osod ystod o Ddangosyddion Darbodus. Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 – 2023/24.
Prif amcanion y Strategaeth oedd i egluro’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith posibl yr oedd yn ei gael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn ymwneud â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Roedd y Strategaeth yn ddogfen drosfwaol ac roedd yn cyfeirio at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Darparu Isafswm Refeniw. Roedd y Strategaeth wedi ei rhannu yn nifer o adrannau a oedd yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi eu codi.
Cynigiodd y Cynghorydd Banks yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roberts.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl swyddogion a fu’n ymwneud â hyn am sicrhau fod y rhaglenni yn parhau i gael eu hariannu a bod hylifedd yn parhau yn dda.
Ar dudalen 27, gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd meini prawf fforddiadwyedd wedi eu gosod o ran y cyllid gan fod Tabl 2 yn dangos cynnydd o 500% mewn grantiau/cyfraniadau/benthyciadau penodol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yna gynnydd sylweddol yn 2023/24 o ganlyniad i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Roedd cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi eu gosod yn y cyfrifiadau hyn a hefyd wedi eu gosod yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd yna unrhyw risg i’r Cyngor o ran lefel y ddyled fel yr amlinellir yn nhabl 5 yr atodiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod lefel y ddyled yn cael ei monitro’n ofalus drwy gydol y flwyddyn i sicrhau fod y ddyled yn is na’r gofyniad cyfalaf. Roedd rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i osod cyfyngiad wedi ei awdurdodi ar gyfer dyled allanol bob blwyddyn a chadw hyn dan adolygiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 - 2023/24 fel y nodir yn Nhablau 1 a 4-7, gan gynnwys y rhai hynny, o’r Strategaeth Gyfalaf; a
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y cyfyngiad a awdurdodwyd ar gyfer y ddyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf).
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 25/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: