Manylion y penderfyniad
Updated Pay Policy Statement for 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
All local authorities are required to publish their Pay Policy Statement by April annually. The Pay Policy Statement presented within this report is the eighth annual Statement published by Flintshire County Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Ddatganiad ar Bolisïau Tâl blynyddol ar gyfer 2020/21 gan grynhoi’r ymagwedd bresennol tuag at gyflog a thâl mewn cyd-destun sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n rwymedigaeth statudol i gyhoeddi’r Datganiad ar Bolisïau Tâl bob blwyddyn cyn dyddiad cau penodol. Cafodd yr Archwiliad Cyflog Cyfartal diweddaraf ei rannu er gwybodaeth hefyd.
Dywedodd yr Uwch-Reolwr ar gyfer Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol bod rhai rhannau wedi cael eu hailysgrifennu er mwyn gwella llif yr adroddiad a bod gohiriad yr adroddiad yn gynharach eleni wedi galluogi i ddata dyfarniad cyflog 2020 gael ei gynnwys yn ogystal â newidiadau cenedlaethol.Rhoddodd drosolwg o’r prif newidiadau yn cynnwys rhan ychwanegol ar derfyn ar daliadau gadael y sector cyhoeddus a chadarnhaodd y byddai’r rhain yn cael eu gweithredu ar 4 Tachwedd 2020. Bydd rhagor o wybodaeth am yr effaith ar yr awdurdod yn cael ei rannu maes o law.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mullin a Palmer, a diolchodd y ddau i’r tîm am eu gwaith.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at drafodaeth yn y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd am ymatebion amserol swyddogion i ymholiadau Aelodau gan ofyn a oedd hyn yn ystyriaeth yng ngwerthusiadau blynyddol a chanol blwyddyn Prif Swyddogion.Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn gyfrifol am gynnal gwerthusiadau pob Prif Swyddog oedd yn ymdrin ag amcanion perfformiad ar gyfer y portffolios perthnasol. Fe ailadroddodd y cyngor y dylai unrhyw faterion o dan berfformio gael eu hadrodd naill ai iddo fo neu’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, fel y nodir yn y protocol y cytunwyd, er mwyn iddynt gymryd camau priodol.
Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Datganiad ar Bolisïau Tâl ar gyfer 2020/21 yn cael ei gymeradwyo a bod yr Archwiliad Cyflog cyfartal yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Sharon Carney
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: