Manylion y penderfyniad

Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider and agree the responses to the representations received to the Deposit LDP consultation exercise and recommend these to be reported to Council for agreement and submission of the Plan to the Welsh Government and Planning Inspectorate for Public Examination, by an independent Planning Inspector.

Penderfyniadau:

Roedd y Cynghorydd Banks wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar yr eitem hon, cafodd ei symud i'r lobi ar-lein yn ystod cyfnod y cyflwyniad, trafodaeth a phleidlais.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Cabinet angen ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Sir a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio (at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol).

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 30 Medi a 11 Tachwedd 2019, a daeth 1281 sylwad i law gan 657 o ymatebwyr ar wahân. Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd gan y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol dan rheoliadau CDLl i wneud holl sylwadau a ddaeth i law i fod ar gael. Roedd hyn wedi cael ei wneud drwy eu rhoi ar y porth ymgynghoriad CDLl ac mewn tabl crynodeb ar wefan y Cyngor.

 

Yn y cyfarfod blaenorol o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 30 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd y Gr?p pob un o’r ymatebion a argymhellwyd i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ac argymhellwyd y dylai’r Cabinet a’r Cyngor Llawn ystyried y rhain fel rhan o’r broses o gytuno i gyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus. Wrth wneud hyn, roedd rhai Aelodau yn deall bod ymatebion i'r cynllun angen eu hystyried ar y cyfan er mwyn symud ymlaen, a byddai rhai Aelodau o'r Cyngor a fyddai gyda phroblem gyda rhannau o’r Cynllun oherwydd rhesymau penodol i bolisi neu ward.  Roedd yn bwysig bod gan yr holl Aelodau ddealltwriaeth bod y Cynllun angen ei symud ymlaen ar y cyfan, a bod Archwiliad Cyhoeddus yw’r lle y bydd y craffu annibynnol terfynol o gadernid y cynllun yn cael ei gyflawni.

 

Cafodd hyperddolen, gyda chrynodeb o sylwadau ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet. 

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Bithell am ei gefnogaeth hirdymor o’r broses CDLl ac am gadeirio'r Gr?p Strategaeth Cynllunio, a diolchodd i holl Aelodau eraill o'r gr?p hwn hefyd. Roedd nifer o sesiynau briffio i Aelodau wedi eu cynnal yr wythnos flaenorol lle cyflwynwyd crynodeb o’r sefyllfa. Cafodd y sesiynau eu rhannu i ardaloedd daearyddol, a bu i gyfanswm o 41 Aelod fynychu. Nid oedd unrhyw dystiolaeth yn dweud na ddylem barhau ar y llwybr hwn. Roedd nifer o bobl a wnaeth y sylwadau wedi dweud yr hoffent wneud sylwadau yn yr Ymholiad a roedd hyn o fewn pwerau’r Arolygydd. Bydd yr Ymholiad yn cael ei gynnal ar ddechrau 2021. 

 

Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i geisio awdurdod dirprwyedig ar gyfer unrhyw newidiadau bychain i’r Cynllun a fydd ei angen o bosib gan yr Arolygydd i’w gyflawni.

 

Hefyd diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl Aelodau o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio a’r swyddogion am eu gwaith caled ar y CDLl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y sylwadau a wnaethpwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol i’w archwilio gan y cyhoedd yn cael eu nodi, a bod cytundeb yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio i’w ystyried fel rhan o Archwiliad Cyhoeddus; a

 

(b)      Penderfynu bod y Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (2015-2030) yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus, ac yn cael ei argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 19/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet

Accompanying Documents: