Manylion y penderfyniad
Grass Cutting Policy Review and Wildflowers on Grass Verges
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek a recommendation to Cabinet to accept
the revisions to the existing Grass Cutting Standard
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad yn ceisio argymhelliad ar gyfer y Cabinet i dderbyn y diwygiadau i’r Safon Torri Gwair bresennol. Rhoddodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod bod y Polisi Torri Gwair wedi’i ddiwygio yn Ionawr 2018, a bod copi wedi’i atodi i’r adroddiad. Trefnwyd y rhaglen torri gwair fel y disgrifiwyd yn y Polisi.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybod am y prif ystyriaethau’n ymwneud â’r polisi torri gwair a chasglu gwair, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at y rhaglen beilot o blannu blodau gwyllt a rheoli ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth.
Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon am faterion yn ei Ward yn ymwneud â thorri gwair a gwasanaethau casglu/clirio a roddwyd i rai o’i breswylwyr.
Rhoddodd y Cynghorydd Owen Thomas sylw ar faterion diogelwch o amgylch rhwystro beth a welir mewn cyffyrdd, troeon a ffyrdd gwledig.Cyfeiriodd hefyd at y materion yn codi o ran hyd y gwair, a dywedodd bod angen draenio ar dir sy’n hygyrch i’r cyhoedd, mannau gwyrdd a meysydd chwarae.
Gan gyfeirio at gais blaenorol gan y Pwyllgor am wybodaeth am gasglu’r gwair a dorrir, derbyniodd y Cynghorydd David Evans yr eglurhad, fel y manylwyd yn yr adroddiad, y byddai’n rhy ddrud i’r Awdurdod roi’r gwasanaeth hwnnw. Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn hapus y byddai goruchwylwyr yn cael y disgresiwn i ofyn am gael gwared ar wair a dorrir os oes angen.
Fe wnaeth y Cynghorydd Carolyn Thomas gydnabod y pryderon a godwyd, a dywedodd yr edrychir arnynt.
Cefnogodd y Cynghorydd Paul Shotton y cynnig i Dorri Gwair y Gaeaf yn ystod Ionawr 2020 lle bo hynny’n briodol. Siaradodd hefyd o blaid mentrau plannu blodau gwyllt, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r gost o gasglu gwair yn ystod y gwaith torri gwair, ac yr argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo’r polisi cyfredol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r rhaglen beilot o blannu blodau gwyllt a rheoli ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned hynny sydd wedi mynegi diddordeb mewn cefnogi’r fenter.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: