Manylion y penderfyniad
Update on Minerals and Waste Planning Shared Service
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Members on the Minerals and Waste
Planning Shared Service
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir. Dywedodd fod y swyddogaeth mwynau a chynllunio gwastraff yn gweithio fel gwasanaeth ar y cyd ar draws Gogledd Cymru. Roedd yr adroddiad yn crynhoi diben a swyddogaeth y gwasanaeth ac yn egluro’r cynigion llywodraethu a chyllido ar gyfer parhad y gwasanaeth.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd yr Arweinydd Tîm Mwynau i gyflwyno’r prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi diben, trefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer
parhau i gefnogi Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir.
Awdur yr adroddiad: Gary Nancarrow
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd