Manylion y penderfyniad
Wales Audit Office (WAO) Audit Plan 2020
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To review the Wales Audit Plan for 2020 for the Council and the Clwyd Pension Fund which sets out the proposed audit work for the year along with timescales, costs and the audit teams responsible for carrying out the work.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020, oedd yn nodi’r trefniadau a chyfrifoldebau ar gyfer y gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Er bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno ym mis Mawrth, nid oedd yn bosibl ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn sgil y sefyllfa argyfyngus.
Dywedodd Mike Whiteley o Archwilio Cymru, ers cyflwyno’r adroddiad, bod nifer o risgiau wedi cael eu diweddaru a’u cyfathrebu i’r Cyngor, a bydd copi o’r rhain yn cael eu rhannu ar gais. Roedd y rhai ar yr archwiliad ariannol yn cyfeirio at ddefnydd cynyddol o amcangyfrifon cyfrifeg a mwy o ganolbwynt ar weithdrefnau’r Cyngor ar gyfer cau’r cyfrifon, fodd bynnag ni godwyd materion o’r fath. Er gwaethaf oedi o ran y dyddiad cynlluniedig ar gyfer barn archwiliad ar y cyfrifon, cadarnhawyd y byddai’r dyddiad cau statudol yn cael ei fodloni ac nid oedd unrhyw faterion wedi codi o’r archwiliad i danseilio hynny. Nid oedd cyflwyniad y safon newydd o Lesoedd IFRS16 bellach yn risg gan fod y gweithrediad wedi cael ei oedi. Roedd y gwaith a gyflawnwyd cyn y cam hwnnw wedi canfod bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da wrth gyflwyno ei ganfyddiadau.
Wrth gyflwyno’r rhaglen archwiliad o berfformiad, dywedodd Gwilym Bury bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi nodi’r dull i waith archwilio yn ystod y sefyllfa argyfwng. Disgrifiodd ymgysylltiad y Cyngor gydag Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod hwn fel ‘rhagorol’ a chanmolodd y dull a gymerwyd i ddelio â’r pandemig. Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi llythyr i’r Cyngor yn ddiweddar yn crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn a’i fwriad i symud ymlaen gyda meysydd eraill o waith archwilio yn y Cynllun wrth ailgydio yn y gweithrediadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan, dywedodd Gwilym Bury mai’r nod oedd cwblhau holl waith archwilio yn y Cynllun erbyn Ebrill 2021 lle bynnag bosibl, heb effeithio ar ffioedd. Canmolodd y Cyngor am ei ymgysylltiad gydag Archwiliad Cymru a’r dull rhagweithiol yn ystod y flwyddyn.
Diolchodd y Prif Weithredwr i gydweithwyr Archwilio Cymru am eu sylwadau cadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
Nodi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: