Manylion y penderfyniad
Quarterly Update on the Response to the Pandemic
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To keep Members informed of the evolving response to the pandemic.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr wybodaeth ddiweddaraf chwarterol ar reolaeth barhaus y Cyngor o ran ymateb i argyfwng yn sgil pandemig Covid-19, er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor, yn ôl cais blaenorol. Cafodd llythyr sicrwydd dros dro gan Archwilio Cymru hefyd ei rannu i gefnogi dull y Cyngor i adferiad.
Rhoddwyd trosolwg ar gynnydd o dan y penawdau rheoli risg, ailddechrau gwasanaethau, amgylchedd rheoli ac adfer llywodraethu democrataidd. Mewn ymateb i sylw cynharach Sally Ellis ar reoli risg, roedd cofrestrau risg gyda thablau lliniaru a oedd yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor, yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ac yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ddiweddarach yn y mis. Canmolodd y Prif Weithredwr yr uwchgyfeirio helaeth yn y dull hwn. Amlinellodd y trefniadau adrodd ar gyfer y Strategaeth Adfer, a oedd wedi cael ei ddatblygu trwy’r Bwrdd Adfer Aelodau, a dywedodd bod sleidiau cyflwyniad ar y gweill o gyfarfod y Cabinet, a byddai cofrestrau risg diwygiedig yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor Archwilio unwaith y byddent ar gael. Byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn derbyn diweddariad ar lafar ar y cam adferiad a’r risgiau cysylltiedig trwy gydol cyfnod y gaeaf.
Diolchodd Sally Ellis i’r swyddogion am eu cofrestrau risg cynhwysfawr a chynlluniau lliniaru. Ceisiodd sicrwydd bod trefniadau cadarn yn eu lle i graffu a monitro ar gynnydd y risgiau unwaith i’r holl bwyllgorau ddychwelyd yn ddiweddarach yn y mis. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n mynychu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu dechreuol ar reoli risg, ynghyd â’r Prif Swyddogion perthnasol a’r Aelodau Cabinet sy’n mynychu’n rheolaidd. Siaradodd am ansawdd y cofrestrau risg a’r fecanwaith adrodd tryloyw oedd yn bwydo mewn i’r Cabinet a Throsolwg a Chraffu. O ran sgiliau, soniodd am brofiad rheoli risg y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn eu portffolios unigol.
Amlygodd y Cynghorydd Heesom bwysigrwydd o gyfranogiad Aelodau etholedig, yn arbennig y rhai heb seddi ar y pwyllgorau.
Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd y byddai adfer llywodraethu democrataidd a briffiau i holl aelodau a gynhelir cyn cyfarfodydd y Cyngor yn helpu i hyrwyddo hynny.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau gan y trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer y camau ymateb ac adfer yr argyfwng.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: