Manylion y penderfyniad
Outcome of the Waste Strategy Review Consultation Process
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for the changes to the waste collection arrangements following the recent consultation exercise.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Ganlyniad Proses Ymgynghoriad y Strategaeth Wastraff oedd yn darparu adborth o ymarferiad ymgynghori ac yn gwneud argymhellion ar y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol yn y Sir.
Roedd y perfformiad ailgylchu presennol o 69.16% i’w ddathlu ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliannau o ran perfformiad yn dod yn anodd eu cyflawni.
Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, y targed ynni oedd 70% ac roedd hwnnw eisoes bron wedi’i gyflawni. Roedd yn bwysig bod y Cyngor yn cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth mwy y gellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu fwy fyth.
Cafwyd 8,770 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Rhoi tic yn y bocs i gwestiynau penodol oedd y rhan fwyaf o’r atebion, ond derbyniwyd 3,036 o sylwadau unigol hefyd. Atodwyd crynodeb o’r ymatebion i bob un o’r cwestiynau penodol. Casglwyd sylwadau ychwanegol o dan y categorïau canlynol:
- Adborth ar y ddarpariaeth gwasanaeth presennol;
- Dryswch ynghylch beth ellir/na ellir ei ailgylchu;
- Awgrymiadau ar gyfer un bin ar gyfer ailgylchu popeth;
- Pryder ynghylch tipio anghyfreithlon yn sgil chasgliadau llai aml;
- Byddai teuluoedd mawr yn cael trafferth gyda chasgliadau llai aml; a
- Thalu mwy o Dreth y Cyngor am lai o wasanaethau
Yn sgil yr ymgynghoriad, yr argymhellion oedd:
1. Peidio â chasglu biniau du’n llai aml ar hyn o bryd – i’w adolygu mewn 12 mis;
2. Cynyddu gorfodaeth i’r rhai nad ydynt yn ailgylchu eu gwastraff;
3. Gwella addysg a gwybodaeth;
4. Casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol – Cewynnau;
5. Cynnal adolygiad llawn o gasgliadau gwastraff; a
6. Chasglu cardfwrdd a phapur ar wahân ar ymyl y ffordd.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r cyhoedd am eu helpu i gyrraedd y cyfraddau ailgylchu presennol; Sir y Fflint oedd y 3ydd gorau yng Nghymru, a Chymru oedd y 3ydd gorau yn y byd.
Dywedodd Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd lle’r oeddent yn adolygu’’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn fanwl, ac yn argymell y cynigion a amlinellir uchod i’r Cabinet. Hefyd gofynnwyd am baratoi dogfen yn y Flwyddyn Newydd i’w chyhoeddi ar wefan y Cyngor i fynd i’r afael â phob un o’r sylwadau unigol a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor; a
(b) Chymeradwyo’r argymhellion ar ddyfodol y gwasanaethau ailgylchu a chasglu gwastraff.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 04/01/2020
Dogfennau Atodol: