Manylion y penderfyniad

Childcare Sufficiency Assessment

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Child Sufficiency Assessment Report

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd nodi bod cyfrifoldeb statudol i ddiweddaru’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob blwyddyn ac i ddatblygu Asesiad newydd bob 5 mlynedd o dan y Ddeddf Gofal Plant, ac esboniwyd hyn ym mhwynt 1.02 yr adroddiad. Roedd crynodeb o’r canlyniad ym mhwynt 1.08 yr adroddiad a rhai negeseuon positif ond roedd heriau hefyd a rhai meysydd yr oedd angen eu gwella.  Talodd deyrnged i Gail Bennett a Keith Wynne a dywedodd fod gan Sir y Fflint dîm ymyrraeth gynnar gweithgar iawn yn y Gwasanaethau Plant, yn wahanol i awdurdodau eraill, gyda 12 o gynlluniau ar draws  y sir a oedd wedi denu cyllid cyfalaf untro o £5m a fuddsoddwyd mewn seilwaith yn yr ysgolion ynghyd ag arian grantiau cyfalaf. Roedd ffurflen yr Asesiad wedi’i chynnwys ar ffurf Atodiad. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad cynhwysfawr iawn ac y dylid diolch i’r rhai a oedd wedi ei baratoi. Gofynnodd a oedd rhestr ar gael o’r cwmnïau sy’n darparu cyfleusterau gofal plant yn fewnol. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddarparu’r wybodaeth hon yn dilyn y cyfarfod. 

 

            Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai un clwb brecwast am ddim sydd ar gael ar gyfer Bwcle i gyd, ac nad oes dim un ym Mhenarlâg nac Aston a gofynnodd beth oedd y rhesymau dros hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gofal plant fforddiadwy yn broblem ac yn gostus ond roedd yr adroddiad hwn yn asesu ansawdd ac effeithlonrwydd y cyfleusterau gofal plant sy’n cael eu darparu gan Sir y Fflint ac roedd y canfyddiadau wedi’u dangos ym mhwynt 1.08 yn yr adroddiad. Ychwanegodd efallai y gellid cynnwys fforddiadwyedd fel ffactor perthnasol yn y dyfodol gan ei bod yn broblem wirioneddol i rieni.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai dewis yr ysgolion oedd manteisio ar gynnig Llywodraeth Cymru i ddarparu clybiau brecwast neu beidio; mae’r clybiau yn neilltuo 30 munud ar gyfer darparu brecwast.  Y broblem sy’n wynebu ysgolion yw bod rhieni yn defnyddio’r clybiau brecwast fel cyfleuster gofal plant. Roedd rhai ysgolion yn cynnig y 30 munud olaf pan oedd y brecwast yn cael ei gynnig fel yr elfen am ddim, ac os oedd angen gofal plant ar y rhieni cyn yr amser hwnnw, roedd yr ysgolion yn codi tâl am hyn. Heb os, roedd ysgolion a darparwyr yn dymuno cynnig gwasanaeth mor fforddiadwy â phosibl ond roedd yn rhaid i hyn fod yn gynaliadwy gyda’r gymhareb gywir o staff, ynghyd â’r angen i gadw at safonau, ac ati. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod llwyddiant y cynnig gofal plant am ddim yn Sir y Fflint wedi bod o gymorth mawr iawn o ran fforddiadwyedd a chynllunio gofal plant; roedd y cynllun wedi bod yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl ac roedd cynghorau eraill yn dilyn ein model.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ysgrifennu llythyr ar y cyd at Gail Bennett, Rheolwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar i Deuluoedd, i ddiolch iddi am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Y dylid cefnogi ymateb strategol y Cyngor i sicrhau gofal plant digonol, cynaliadwy o ansawdd uchel o fewn y Sir sy’n ymateb i anghenion plant a’u teuluoedd;

 

(b)     Y dylid cefnogi’r gwaith ac ymrwymiad parhaus i gyflawni’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, bob pum mlynedd, a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol; ac

 

(c)     Y dylai Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ysgrifennu llythyr ar y cyd at Gail Bennett, Rheolwr Cymorth y Blynyddoedd Cynnar i Deuluoedd, i ddiolch iddi am yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Craig Macleod

Dyddiad cyhoeddi: 01/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 25/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/07/2019 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: