Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Corporate Resources Overview & Scrutiny Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r
Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Atgoffodd Aelodau, cyn dechrau’r cyfarfod nesaf, y byddai sesiwn briffio’n cael ei chynnal am 9.30am ar ffurf newydd adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw.
Yn ogystal â’r eitemau a fyddai’n cael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Medi, cytunwyd y bydd diweddariad ar yr arfarniadau’n cael eu cynnwys yn adroddiad Chwarterol y Gweithlu a Chyflogaeth. Hefyd cytunwyd y byddai adroddiad ar Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf ac yn ddiweddarach yr Adolygiad Actiwaraidd o Gronfa Bensiwn Clwyd.
Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Richard Jones ar ffurf newydd adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw, dywedodd swyddogion bod rhai addasiadau wedi’u gwneud i wella’r ffurf i helpu i ddeall yr wybodaeth yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod angen dangos yr amrywiannau. Dywedwyd wrth Aelodau y byddai manylion am ragolygon y prif orwariant ar Ofal Cymdeithasol a Strydoedd yn cael eu cynnwys yn adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw Misol 2019/20 i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf. Byddai’r swyddogion perthnasol hefyd yn bresennol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr adroddiad ar y Cylch Cynllunio Cyllid a Busnes a gyflwynwyd i gyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Ionawr 2019 a dywedodd fod angen atodi cyllidebau iddo.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu hawdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: