Manylion y penderfyniad

Marleyfield House Expansion progress update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide members with a progress report in relation to the extension to Marleyfield House Care Home.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad ag estyniad Cartref Gofal Marleyfield House, Bwcle. Cyflwynodd Michael Jones a Gareth Stapley-Jones, Swyddogion Cynllunio a Datblygu, Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion wybodaeth gefndirol a dywedodd y byddai datblygu Marleyfield House yn cynyddu capasiti o 32 gwely ychwanegol a darparu llety i gefnogi 64 o bobl.  Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb cychwynnol, rhoddwyd cymeradwyaeth i gysylltu â chwmni adeiladu er mwyn bwrw ymlaen â’r prosiect. Cynigiwyd dyluniad diwygiedig, modern ac arloesol oedd yn gwneud y mwyaf o dopograffi’r tirwedd gan ddarparu llety pwrpasol; effeithlon ar gyfer ystod o wasanaethau a fyddai’n cael eu darparu. Mae’r cynlluniau yn galluogi rhagor o ymarferoldeb gweithrediadau, cysylltiadau agosach gyda chyfleusterau presennol, ac adferiad wedi’i gefnogi ar gyfer preswylwyr tymor byr a lles ar gyfer preswylwyr hir dymor.  Sicrhawyd buddsoddiad ar gyfer y datblygiad trwy Grant Cyfalaf fel rhan o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol o Raglen Cyfalaf y Cyngor.  Roedd cais yn cael ei gyflwyno i’r Rhaglen Tai Arloesol i gael rhagor o gefnogaeth ar gyfer y prosiect hefyd.

 

Cyflwynodd y Swyddogion Cynllunio a Datblygu argraff arlunydd o’r estyniad, gan egluro’r cynlluniau a’r gosodiad.  

 

Siaradodd Aelodau i gefnogi’r prosiect a’r dull arloesol o gefnogi unigolion mewn lleoliadau preswyl. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd Swyddogion i’r cwestiynau a  ofynnwyd yngl?n â lefelau staffio, dalgylchoedd, darpariaeth ar gyfer pobl gyda dementia, a chyfleusterau gofal dydd a seibiant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey pam fod paneli solar heb gael eu cynnwys yn y dyluniad. Cytunwyd y byddent yn gofyn am ragor o wybodaeth am ddefnydd posibl paneli solar gan Gomisiwn Dylunio Cymru. 

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon na fyddai’r trefniadau parcio arfaethedig yn ddigonol a gofynnodd a oedd modd cynyddu’r ddarpariaeth heb gyfaddawdu ar ofynion cynllunio.     Roedd y Swyddogion yn cydnabod y pwyntiau a wnaed, gan egluro fod nifer o staff wedi mynegi eu bod yn dymuno beicio i’r gwaith a fyddai’n lleihau nifer y meysydd parcio oedd eu hangen ymhellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Estyniad Marleyfield House fel blaenoriaeth strategol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Awdur yr adroddiad: Susie Lunt

Dyddiad cyhoeddi: 30/08/2019

Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: