Manylion y penderfyniad
Minimum Revenue Provision 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve the Council’s policy for
Minimum Revenue Provision (repayment of debt) for financial year
2019/20
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad er mwyn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer polisi’r Cyngor ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (ad-dalu dyledion) ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a dywedodd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn defnyddio’r dull blwydd-dal ar gyfer gwariant cronfa’r cyngor a dywedodd y gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo parhad o bolisi’r llynedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa’r Cyngor (CF)
- Defnyddio Opsiwn 3 (Dull Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2019/20 ar gyfer balans gwariant cyfalaf dyledus a ariennir drwy fenthyca â chymorth a bennwyd ar 31 Mawrth 2017. Y cyfrifiad fydd y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 blynedd.
- Defnyddio Opsiwn 3 (Model Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2019/20 r gyfer gwariant cyfalaf a ariennir drwy fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Y cyfrifiad fydd y dull ‘blwydd-dal’ dros gyfnod priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
- Defnyddio Opsiwn 3 (Model Oes Asedau) ar gyfer cyfrifo’r MRP ym mlwyddyn ariannol 2019/20 ar gyfer gwariant cyfalaf a ariennir drwy fenthyca heb gymorth (darbodus) neu drefniadau credyd.
(b) Cymeradwyo’r canlynol i’r Cyngor Sir ar gyfer dyled Cyfrif Refeniw Tai (HRA)
- Defnyddio Opsiwn 2 (Dull Gofyniad Cyllido Cyfalaf) ar gyfer cyfrifo MRP yr HRA yn 2019/20 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf a ariennir gan ddyled.
(c) Cymeradwyo’r MRP ar fenthyciadau gan y Cyngor ar gyfer Cartrefi NEWYDD er mwyn adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn:
- Ni ddylid gweithredu unrhyw MRP yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n gyfnod byr) oherwydd na fydd yr ased yn cael ei ddefnyddio a dim budd yn deillio o’i ddefnyddio.
- Pan fo’r asedau yn cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi NEWYDD. Bydd MRP y Cyngor yn hafal â’r ad-daliadau a wneir gan Gartrefi NEWYDD. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi NEWYDD yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifyddu, fel derbynebau cyfalaf, y gellir ond eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled. Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbynneb cyfalaf yn cael ei neilltuo er mwyn ad-dalu dyled, a dyma yw polisi MRP y Cyngor ar gyfer ad-dalu’r ddyled.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 09/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: