Manylion y penderfyniad

Revenue budget monitoring 2019/20 (Interim)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on the budget position in-year.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Interim) sef adroddiad monitro cyntaf 2019/20.  Roedd yr adroddiad yn nodi, trwy eithriad, yr amrywiannau sylweddol a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2019/20 a chynnydd y gwaith o gyflawni’r arbedion arfaethedig yn erbyn y targedau a bennwyd ar gyfer y flwyddyn.

 

                        Amcangyfrifwyd y byddai effaith net y risgiau a’r amrywiannau a oedd yn datblygu, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, yn £3.101 miliwn yn ystod cyfnod y gyllideb arfaethedig.  Roedd y ffigur yn seiliedig ar amrywiannau sylweddol hysbys o fwy na £0.100 miliwn a byddai’n destun newid yn ystod y flwyddyn.

 

                        Byddai adroddiad ar fis 4 yn cael ei ddarparu ym mis Medi a byddai’n cynnwys manylion pellach.

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod yr adroddiad wedi’i drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Dynol lle gwnaed cais am adroddiadau ar y gorwariant ar Strydlun a Thrafnidiaeth a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ymatebodd Aelodau i’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a dweud bod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod cost ac anwadalrwydd y gwasanaeth.  Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr awdurdod yn edrych ar fentrau i sicrhau bod y ddarpariaeth Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir mor gynaliadwy â phosibl a byddai manylion yn cael eu darparu yn yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I nodi’r adroddiad ac y byddai adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn; a

 

(b)       I gymeradwyo trosglwyddiad cyllid o £0.471 miliwn yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cyfleusterau gofal ychwanegol newydd.

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 25/07/2019

Accompanying Documents: