Manylion y penderfyniad
Welsh Government Innovative Housing Programme - Land at St Andrew's Church, Garden City
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To advise of the in-principle award of a £1.1M grant from Welsh Government under the Innovative Housing Programme (IHP) for the Council to develop 12 apartments on land at St Andrew's Church, Garden City, Queensferry.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru – Tir yn Eglwys Sant Andrew, Garden City, a oedd yn cynnwys manylion am y Rhaglen a’r drefn o wneud cais.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yngl?n â’r Dechneg Adeiladu Fodern y bwriedid ei defnyddio drwy’r Rhaglen, a gwybodaeth am amodau a thelerau’r grant.
Nod y Rhaglen oedd hybu arloesedd o ran technegau adeiladu, llwybrau cyflawni a mathau o dai ymhob sector. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno nodau pennaf y Rhaglen yn llawn.
Y targed oedd adeiladu 1,000 o dai fforddiadwy drwy’r rhaglen, i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy. Cymeradwywyd y rhaglen am dair blynedd a neilltuwyd cyllideb o £90 miliwn ar ei chyfer. Dechreuodd y drefn ymgeisio ar gyfer Blwyddyn 2 fis Ebrill 2018, ac am y tro cyntaf gellid ystyried ceisiadau gan gwmnïau preifat yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol. Roedd y safle’r oedd y Cyngor wedi’i glustnodi ar gyfer cais i’r Rhaglen yn gorwedd i’r gorllewin o Sealand Avenue a’r tu ôl i Eglwys Sant Andrew a th?’r Curad. Maint y safle oedd 0.41 erw ac roedd yn gyfuniad o dir yr oedd y Cyngor eisoes yn berchen arno a thir a brynwyd gan Eglwys Cymru fis Mawrth 2017 gyda grant cyfalaf.
Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) am y cynllun blaengar a olygodd fod y Gweinidog Tai wedi cyhoeddi ar 16 Chwefror y bu Sir yn Fflint yn llwyddiannus â’r cais a gyflwynwyd i adeiladu deuddeg o fflatiau gyda hyblygrwydd i fodloni anghenion cyfnewidiol ym maes tai cymdeithasol, gan gynnwys addasu maint y fflatiau, sicrhau hygyrchedd i gadeiriau olwyn, a darparu gwasanaeth byw â chymorth ar y safle. Roedd hefyd yn gyfle delfrydol i herio’r drefn arferol o ddefnyddio dulliau adeiladu traddodiadol, gan ystyried lleoliad y safle.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo datblygiad o ddeuddeg o fflatiau newydd ar dir yn Eglwys Sant Andrew, Garden City am gost amcanol o £2.199 miliwn yn sgil sicrhau grant cyfalaf o £1.1 miliwn drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru; a
(b) Chymeradwyo benthyg £1.099 miliwn drwy’r Cyfrif Refeniw Tai er mwyn ariannu gweddill cost amcanol y cynllun.
Awdur yr adroddiad: Melville Evans
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 31/01/2019
Dogfennau Atodol: