Manylion y penderfyniad

Economic Ambition Board and the Proposition Document

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To adopt the Proposition Document as (1) the basis of a longer-term regional strategy for economic growth and (2) the regional bid for the priority programmes and projects from which the content of a Growth Deal will be drawn at the Heads of Terms Agreement stage with Governments.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygu cynnig Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn dilyn mabwysiadu’r cam cyntaf o Gytundeb Llywodraethu ym mis Mehefin.  Ar y cam hwn, roedd disgwyl i’r holl bartneriaid rhanbarthol i ardystio’r Ddogfen Gynnig (yn gosod rhaglenni a phrosiectau i'w hystyried i'w cynnwys yn y Fargen Twf) i roi mandad i'w arweinwyr priodol i'w cynnwys mewn Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn yr Hydref.

 

Mae datblygu’r strategaeth wedi cynnwys gwaith cymhleth ar draws y rhanbarth, gyda'r nod o gael mynediad i gronfeydd cyfalaf o'r ddwy Lywodraeth i elwa twf busnes a chyflogaeth.  Byddai’r ail Gytundeb Llywodraethu i'w gael yn ddiweddarach yn pennu’r risgiau a’r goblygiadau ariannol ar gyfer y bartneriaeth ar y cyd ac i bartneriaid unigol.

 

Fel Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd, fe dalodd y Cynghorydd Butler deyrnged i’r Prif Weithredwr a'r Arweinydd am eu rhan mewn cyflawni cytundeb rhanbarthol yn amserol.  Dywedodd bod strategaeth am dwf economaidd yn rhoi llais rhanbarthol i gynghorau i sicrhau fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyflawni ei addewidion.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton bod cynnydd hyd yma o ganlyniad i gydweithio i ddatblygu Bargen Twf i gwrdd ag anghenion y rhanbarth.  Yn galw am gefnogaeth Aelodau fe ddywedodd am ddisgwyliadau busnesau lleol ar gyfer y Fargen Twf rhanbarthol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at drafodaeth yng nghyfarfod mis Mehefin yn nodi bod y Ddogfen Gynnig  yn cael ei rannu ym mis Medi a gweithdy posib i gyfeirio at nifer y materion heb eu casglu.  Cynigodd bod yr adroddiad yn cael ei ohirio i ganiatáu amser i ystyried y materion mewn manylder.  Cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Heesom wnaeth siarad am oblygiadau yn ymwneud a'r Bargen Twf ar yr isadeiledd priffyrdd.

 

Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y ddogfen wedi cael ei ddarparu yn unol â’r amserlen a adroddwyd ar gyfer Medi/Hydref fel y gwelir yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf.  Eglurodd nad oedd ymrwymiadau ariannol neu gytundeb yn cael eu gwneud ar y cyfnod hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones ei fod yn cefnogi’r gohiriad oherwydd ei bryderon am fuddion teg ar draws y Sir a ddylai yn ei farn ef dderbyn sylw.  Dywedodd bod y Cynllun Glannau Dyfrdwy yn hysbysu’r bwrdd economaidd ac y dylai fod yn Gynllun Sir y Fflint.

 

Ar y bleidlais, cafodd y cynnig i ohirio'r adroddiad ei wrthod.

 

Wrth symud yr argymhellion yn yr adroddiad fe ddywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y penderfyniad yn hanfodol er mwyn cyflawni cytundeb rhanbarthol i symud i’r cam nesaf o drafodaethau.  Cafodd hynny ei eilio gan y Cynghorydd Attridge.

 

Wrth gymryd y bleidlais, derbyniwyd y bleidlais.

 

Cytunodd y Prif Weithredwr i drefnu gweithdy mewnol er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau ymhen amser.

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig fel (1) sail strategaeth rhanbarthol mwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) sail ranbarthol ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau blaenoriaeth y bydd cynnwys Bargen Dwf yn cael ei dynnu ohonynt yn y cam Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau. Nid yw mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn ac mae’n amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf terfynol yn cael eu nodi mewn manylder, i’w hystyried yn llawn, pan gaiff y Fargen derfynol ei chyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth yn ddiweddarach; a

 

(b)       Bod y Cyngor yn nodi fod yr Arweinydd yn cael ei awdurdodi gan y Bwrdd Gweithredol/Cabinet i ymrwymo’r Cyngor i lunio Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau ochr yn ochr â’r arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Busnes Mersi a’r Ddyfrdwy Gogledd Cymru gyda’r Ddogfen Gynnig yn nodi’r paramedrau ar gyfer cytundeb penawdau'r telerau.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2018

Dyddiad y penderfyniad: 23/10/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/10/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: