Manylion y penderfyniad
Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To inform the Committee of progress against
actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor. Diweddarwyd y fformat i gynnwys terfynau amser fel y gofynnwyd yn flaenorol.
Fel diweddariad pellach ar weithredoedd o gyfarfod mis Gorffennaf, anogwyd Aelodau i gwblhau arolwg Iaith Gymraeg a chafwyd 54 o ymatebion hyd yma.
O ran cam gweithredu heb ei gwblhau ers cyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi, dywedodd swyddogion y caiff copïau o’r adroddiad arolwg ar bont Sir y Fflint eu rhannu erbyn y diwrnod canlynol. Eglurodd y Cynghorydd Heesom bod ei gais am yr adroddiad yn ymwneud â hyfywedd y bont fel sianelydd ar gyfer mater seilwaith priffyrdd sylweddol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei gylchredeg i bob Aelod o’r Pwyllgor. Byddai cynlluniau Llywodraeth Cymru i fabwysiadu’r bont fel rhan o’r rhwydwaith y cefnffyrdd yn dileu unrhyw gyfrifoldeb ar y Cyngor dros waith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Croesawodd y Cynghorwyr Heesom a McGuill y gweithdai portffolio cyllideb diweddar y gofynnwyd amdanynt gan Aelodau. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm am eu cyfraniad, a rhoddodd wybod bod gwaith yn mynd rhagddo ar y rhestr o faterion penodol a nodwyd yn y gweithdai a gaiff ei chylchredu i'r Aelodau i gyd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2018
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: