Manylion y penderfyniad
Investment Strategy and Manager Summary
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Arweiniodd Mr Buckland yr eitem hon ar y rhaglen gan amlygu bod cyfanswm gwerth y Gronfa ar y farchnad dros y tri mis diwethaf oddeutu £1,777 miliwn ar ddiwedd mis Mawrth, tua £1,820 miliwn ar ddiwedd mis Ebrill ac oddeutu £1,850 miliwn ar ddiwedd mis Mai.Mae JLT yn dal i aros am gadarnhad o’r ffigwr hwn fodd bynnag mae cynnydd o ryw 5% wedi bod ers diwedd mis Mawrth.
Cyfeiriodd Mr Buckland y Pwyllgor at dudalen 209 a oedd yn rhoi amlinelliad o'r crynodeb perfformiad ar ddiwedd mis Mawrth.Roedd perfformiad y Gronfa dros y tri mis yn siomedig oherwydd enillion ecwiti negyddol yn bennaf.Fodd bynnag, yn gyffredinol mae cyfanswm enillion y Gronfa yn uwch na’r meincnod er gwaethaf hyn.
Tynnodd Mr Buckland sylw at y ffaith nad oedd y Portffolio Syniadau Gorau wedi perfformio’n dda dros y tri mis tan 31 Mawrth 2018. Gwelwyd gostyngiad o 4.1% a adawodd cyfanswm gwerth y farchnad oddeutu £188 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2018. Fodd bynnag, erbyn diwedd mis Mai 2018 roedd perfformiad wedi gwella gan adael cyfanswm gwerth y farchnad o £198 miliwn.
Perfformiodd asedau mewnol cyffredinol yn dda ar y cyfan dros y deuddeng mis diwethaf a'r tair blynedd, gan ragori ar y meincnod dros y ddau gyfnod.
Dywedodd Mr Latham bod perfformiad y CPLlL gyfan wedi cael ei ddadansoddi mewn cyfarfod yr oedd wedi’i fynychu yn y gorffennol a daeth y Gronfa yn bedwerydd am yr enillion ecwiti gorau ar draws pob CPLlL. Mae Ecwiti yn ddosbarth ased y mae’r Gronfa fel arfer yn cael anhawster ag ef o’i gymharu a’i gyfoedion felly roedd hwn yn ganlyniad boddhaol.Nododd Mr Buckland bod dod i gysylltiad â marchnadoedd newydd wedi helpu perfformiad y Gronfa gydag ecwitïau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bu i’r Pwyllgor nodi a thrafod y strategaeth fuddsoddi a pherfformiad rheolwyr yng Nghrynodeb y Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli 31 Mawrth 2018; a
(b) Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth yn yr adroddiad diweddariad Economaidd a Marchnad i ddarparu cyd-destun yn ogystal â’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: