Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Community & Enterprise Overview & Scrutiny
Committee
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at gyfarfod arbennig yn y Fflint ar 17 Gorffennaf i ystyried y Strategaeth Tlodi Bwyd, byddai manylion yn cael eu cadarnhau drwy e-bost. Hefyd, dywedodd y byddai’r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 19 Medi angen cael ei symud i 26 Medi.
Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin am eitem ar orfodi cytundebau rhent a gwirio eiddo. Dywedodd y Cynghorydd Attridge y gallai hyn gael ei gynnwys mewn adroddiad ar reoli tai yn gyffredinol.
Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle a fyddai’n bosibl adfer yr arfer o ymweld ag ystadau – lle gwahoddwyd Aelodau lleol i fynd gyda swyddogion oedd yn cynnal gwiriadau ar eiddo yn eu ward. Dywedodd y Cynghorydd Attridge mai cyfrifoldeb Swyddogion Tai oedd y gwaith hwn.
Yn ystod trafodaeth, dywedodd Aelodau am eu profiadau unigol o roi gwybod am faterion tai.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Ron Davies, dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y mater o droliau archfarchnad yn cael eu hepgor wedi’i godi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd. Cyunodd y byddai copi o’r nodyn briffio yn cael ei rannu yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Accompanying Documents: