Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (interim)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide details of known key risks and issues to the revenue budget outturn position for 2018/19 for the Council Fund and Housing Revenue Account.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllided yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2018/19, sef yr adroddiad monitro cyntaf yn 2018/19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaethpwyd wrth gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn unol â’r targedau a bennwyd, ac yn nodi’r amrywiannau o bwys a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2018/19.
Fel y nodwyd yn yr adroddiad, rhagamcanwyd mai effaith net gychwynnol y risgiau a’r amrywiannau oedd yn dod i’r amlwg oedd y byddai gwariant £1.619 miliwn yn llai na’r gyllideb. Roedd y swm yn cynnwys ad-daliad TAW unigol o £1.940 miliwn a thanwariant o £1.400 miliwn yn y flwyddyn ar gyfer Darparu Isafswm Refeniw. Gan ystyried hynny, rhagamcanwyd y byddai’r canlyniad terfynol £1.721 miliwn yn fwy na’r gyllideb.
Cyflwynid adroddiad ar y pedwerydd mis i’r Cabinet ar 25 Medi 2018, a byddai hwnnw’n cynnwys mwy o fanylion. Roedd yr adroddiad hwn yn amlygu’r risgiau lefel uchel a allai effeithio ar y rhagamcanion ariannol, a byddai'n rhaid monitro’r rhain yn fanwl gydol y flwyddyn.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a nodwyd fel risg ariannol uchel o ran natur anwadal y maes, gan sôn hefyd am y gwaith oedd yn mynd rhagddo yn y rhanbarth i fynd i’r afael â hynny. Soniodd hefyd am lwyddiant lobïo ar y cyd gan lywodraeth leol yngl?n â dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, oedd wedi arwain at gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y dosrennid £1.2 miliwn yn genedlaethol er mwyn lliniaru ar golli'r arian yn 2018/19.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Chymeradwyo trosglwyddo £0.058 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid i wneud iawn am y gostyngiad yn sgil dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.
Awdur yr adroddiad: Jonathan M Davies
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/07/2018
Dogfennau Atodol: