Manylion y penderfyniad
Capital Programme 2017/18 (Outturn)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To receive the outturn capital programme information for 2017/18.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Canlyniad) a oedd yn rhoi crynodeb o’r newidiadau a wnaethpwyd yn y Rhaglen Gyfalaf yn ystod tri mis olaf 2017/18.
Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf ar sail y canlyniad terfynol oedd £59.143 miliwn, gostyngiad net o £0.279 miliwn o gymharu â’r cyfanswm yn y nawfed mis o’r flwyddyn (£59.422 miliwn). Y rhain oedd y newidiadau yn y Rhaglen:
· Cynnydd o £2.836 miliwn yn y rhaglen (£2.159 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor a £0.677 miliwn yn y Cyfrif Refeniw Tai);
· Gwrthbwyso drwy gario cyllid ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.289 miliwn a gymeradwywyd gan y Cabinet yn y nawfed mis; a
· Gwrthbwyso drwy gario gwariant wedi’i ariannu gan grantiau hwyr Llywodraeth Cymru ymlaen i 2018/19, sef swm o £1.826 miliwn.
Y gwir ganlyniad oedd £57.380 miliwn, a oedd yn awgrymu tanwariant o £1.763 miliwn. Y swm dan sylw, fodd bynnag, oedd cyfanswm y cyllid a gariwyd ymlaen i 2018/19.
Y canlyniad o ran ariannu oedd gorwariant o £0.068 miliwn ar sail y cyllid oedd wedi’i gadarnhau. Y rheswm am hynny oedd bod y Cyngor wedi derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru yn hwyr, ac wedi defnyddio rhywfaint o’r arian i lenwi bylchau mewn refeniw, a arweiniodd at danwariant ar y gyllideb refeniw yn 2017/18. Byddai’r Cyngor yn ariannu’r un faint o wariant cyfalaf yn 2018/19 ar sail derbyniadau cyfalaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen.
Awdur yr adroddiad: Andrew Elford
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/07/2018
Dogfennau Atodol: