Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Social & Health Care Overview & Scrutiny
Committee
Penderfyniadau:
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin a thynnodd sylw at yr ymweliad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gofynnodd i Aelodau anfon unrhyw gwestiynau penodol y dymunant eu codi gyda’r cynrychiolydd ati erbyn dydd Gwener 18 Mai.
Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i waith. .
Cytunwyd hefyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
(c) Gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche Sir y Fflint i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u gwaith.
(d) Gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 26/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 10/05/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/05/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: