Manylion y penderfyniad
Timing of meetings Survey
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar ganlyniadau’r arolwg a oedd yn ceisio barnau pwyllgorau ar eu patrwm dewisol ar gyfer cyfarfodydd.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod pob un o’r chwe phwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cynllunio (yr ymgynghorwyd ag ef drwy’r Gr?p Strategaeth Cynllunio) yn dymuno cadw eu trefniadau eu hunain fel y maent. Cynhwyswyd sylwadau a godwyd gan Aelodau’r pwyllgorau hynny yn ystod yr ymgynghoriad mewn atodiad i’r adroddiad. Byddai canlyniadau’r arolwg yn helpu i lywio’r model ar gyfer Amserlen Cyfarfodydd 2018/19 a fydd yn cael ei chymeradwyo yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers am gael cynnwys y canlyniad a gytunir ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn y traciwr dewis cyfarfodydd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Phillips at y ffaith fod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio’n gallu pennu p’un a ddylid cynnal y cyfarfodydd hynny’n gynt, yn dibynnu ar faint o fusnes sydd i’w ystyried.
Roedd y Cynghorwyr Dunbar a Wisinger yn cytuno.
Dywedodd y Cynghorydd Peers mai cyfrifoldeb pob pwyllgor oedd newid amseroedd cyfarfodydd yn gyfatebol.
PENDERFYNWYD:
(a) Paratoi’r Amserlen Gyfarfodydd ddrafft ar gyfer 2018/19 yn ôl y patrwm presennol ar gyfer cyfarfodydd; ac
(b) Yn achos bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio’n credu bod maint y busnes sydd i’w drafod yn cyfiawnhau hynny, bod y pwyllgor yn dechrau am hanner dydd yn hytrach nag 1pm.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 09/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/01/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Accompanying Documents: