Manylion y penderfyniad
Sharing Information within the Council
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar adolygiad arfaethedig o reolau o fewn y Cyfansoddiad ar rannu gwybodaeth. Y nod oedd rhoi eglurhad o ba lefelau o wybodaeth y gellid ei rhannu y tu mewn i’r Cyngor i ddiwallu anghenion Aelodau ac i gydymffurfio â deddfwriaeth.
Yr ymagwedd a argymhellwyd oedd sefydlu gweithgor trawsbleidiol dan arweiniad Is-Gadeirydd y Pwyllgor (yn absenoldeb y Cadeirydd) gyda chynrychiolaeth gan Aelodau’r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai ac Addysg, sef y deiliaid portffolio sy’n ymdrin â’r data mwyaf sensitif.
Croesawyd yr adolygiad arfaethedig gan Aelodau a oedd yn cydnabod pwysigrwydd diogelu yn erbyn peryglon rhannu gwybodaeth.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n mynd i gyfarfodydd i roi cyngor i’r gweithgor, ynghyd â swyddogion perthnasol eraill. Argymhellodd fod y gweithgor yn mabwysiadu ymagwedd fesul cam i ganiatáu ystyriaeth fanwl a dealltwriaeth o’r testun. Yna byddai’r rheolau’n cael eu rhannu ar gyfer ymgynghori cyn ceisio eu mabwysiadu gan y Cyngor ym mis Mai 2018. Cytunodd i gysylltu ag Arweinwyr Grwpiau ar yr aelodau ar y gweithgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid sefydlu gweithgor i ail ysgrifennu'r rheolau i swyddogion ac Aelodau sydd wedi eu cynnwys yn y Cyfansoddiad ar sut y caiff gwybodaeth ei rhannu y tu mewn i’r Cyngor;
(b) Dylai’r gweithgor gynnwys hyd at 8 aelod gan gynnwys Cadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor, Aelodau Cabinet dros Addysg, Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol (y mae eu portffolios yn ymdrin â’r data personol mwyaf sensitif) ac 1 aelod o bob un o’r grwpiau gwleidyddol eraill; a
(c) Dylid gofyn i’r gweithgor adrodd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd mewn pryd i wneud argymhellion i Gyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai 2018.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/10/2017 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Accompanying Documents: