Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the
Organisational Change Overview & Scrutiny Committee
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol i’w hystyried. Yn dilyn yr awgrym i’r Pwyllgor ymweld â Chanolfan Hamdden Treffynnon, sylwyd na fyddai hyn yn bosibl ar gyfer y cyfarfod nesaf. Byddai opsiynau ar gyfer lleoliad arall yn cael eu hystyried a gwahoddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynychu ar gyfer yr eitem ar Fodel Cyflawni Amgen Gofal Cymdeithasol.
Gofynnodd y Cadeirydd am farn ar lefel y manylion yn yr adroddiadau ac yn gyffredinol dywedodd yr Aelodau eu bod yn fodlon gyda’r wybodaeth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: