Manylion y penderfyniad

Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau a chynnydd â wnaed ers i’r adroddiadau gael eu cyflwyno ddiwethaf ym mis Mai.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol yr adroddiad a amlinellodd y cynnydd a wnaed o ran archwilio trefniant grant newydd gydag Aura, ac asesiad rheoli cymhorthdal sy’n cydymffurfio cysylltiedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion diwygiedig canlynol, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Crease:-

 

·           Bod cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;

 

·         Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a

 

·         Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura.

 

Adroddodd yr Hwylusydd y cynghorwyd y Cynghorydd Preece, cyn y cyfarfod, nad oedd yn briodol darparu copi o’r contract i’r Aelodau.  Rhoddodd y Cynghorydd Preece yr ymateb yr oedd wedi’i roi i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod i’r Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Cynnal cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;

 

(b)        Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a

 

(c)        Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura. 

Awdur yr adroddiad: Kelly Oldham-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2024

Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

  • Restricted enclosure  
  • Restricted enclosure  
  •