Manylion y penderfyniad
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth ar y camau gweithredu a gymrwyd o dan bwerau dirprwyedig. Mae’r camau gweithredu wedi eu nodi isod:-
Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- Gorchymyn Cyngor Sir y Fflint 202 (Kinnerton Lane a Lesters Lane, Higher Kinnerton) (Terfyn Cyflymder 40 milltir yr awr) (Diwygiad rhif 02)
Hysbysu’r Aelodau am y gwrthwynebiadau a gafwyd ar ôl hysbysebu’r terfyn cyflymder 40 milltir yr awr ar y ffyrdd fel y rhestrir uchod.
Arlwyo a Glanhau NEWydd
- Cynyddu Pris Prydau Ysgol
Mae’r pwysau o ran costau ar ddarpariaeth prydau ysgol ers yr adolygiad blaenorol yn Ebrill 2022 wedi bod yn arwyddocaol. Gyda RPI ar hyn o bryd yn 13.8% ac yn benodol chwyddiant bwyd yn 19.3% a gyda’r pwysau ychwanegol o gyfraddau llafur yn cynyddu o dros 10%, mae’r angen am gynnydd ym mhris prydau ysgol yn glir er yn destun gofid.
Mae cynnydd yn galluogi NEWydd i barhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â chostau sy’n cynyddu’n gyflym, yn arbennig y rhai hynny sy’n gysylltiedig â bwyd a llafur.
Tai ac Asedau
- Trosglwyddo Ased Cymunedol, Canolfan Ieuenctid Glanrafon, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Mae’r ardaloedd a’r ased sydd i’w trosglwyddo wedi eu nodi ar gynllun lleoliad y safle ag ymyl coch. Mae cyfnod y trosglwyddiad am saith mlynedd ar hugain am rent bychan iawn gyda’r dewis o dorri’n rhydd wedi blwyddyn yn ymarferadwy gan y tenant yn unig.
- Trosglwyddo Ased Cymunedol, Llyfrgell Bagillt, Gadlys Lane, Bagillt, Sir y Fflint
Mae’r ardaloedd a’r ased i’w trosglwyddo wedi eu nodi ar gynllun lleoliad y safle ag ymyl coch. Mae cyfnod y trosglwyddiad am saith mlynedd ar hugain am rent bychan iawn gyda’r dewis o dorri’n rhydd wedi blwyddyn yn ymarferadwy gan y tenant yn unig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet
Accompanying Documents: