Manylion y penderfyniad

Clwyd Pension Fund Annual Report and Accounts 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad yma gan ddweud:

-       Bod angen i’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a archwiliwyd gael eu cyhoeddi cyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r Swyddog Adran 151 wedi adolygu’r cyfrifon a chadarnhau ei fod yn hapus gyda’u hansawdd a’r tybiaethau sylfaenol cyn eu cyflwyno i Archwilio Cymru.

-       Cafodd canllaw cenedlaethol ar adroddiadau blynyddol cronfa bensiynau CPLlL ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024, ac yn ôl y canllaw, mae’r Gronfa wedi gwneud ei gorau i gydymffurfio heblaw lle byddai’r ymdrech neu gost angenrheidiol yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i strwythur yr adroddiad yn seiliedig ar ganllaw sydd â’r bwriad o wneud adroddiadau blynyddol y gronfa bensiynau yn fwy unffurf ar draws y CPLlL.

-       Diolchodd i’r rheini a fu’n rhan o baratoi fersiwn ddrafft yr adroddiad blynyddol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor roi nodiadau a sylwadau. Bydd y Gronfa yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i ddarparu Adroddiad Blynyddol terfynol wedi’i archwilio. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd ynghyd â Barn Archwilio ffurfiol, a bydd swyddogion yn argymell cymeradwyo’r ddogfen derfynol.

-       Mae’r gwaith o archwilio’r Cyfrifon Blynyddol wedi dechrau ac nid oes unrhyw faterion sylweddol wedi’u codi hyd yn hyn. Cafodd yr adroddiad drafft ei gyflwyno i Archwilio Cymru erbyn y dyddiad cau ar 1 Awst 2024, ond nid yw wedi cael ei archwilio eto.

 

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy rannau cyntaf yr Adroddiad Blynyddol.

Cyflwynodd Mrs McWilliam adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol, ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau. Diolchodd i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith ac ymrwymiad i’r Gronfa, a diolchodd i’r Pwyllgor a’r swyddogion am weithio’n agored gyda’r Bwrdd a chroesawu’r ffaith ei fod yn ymwneud â’r Gronfa.  I gloi dywedodd fod yna reolaeth eithriadol o’r Gronfa ac roedd 2023-24 yn flwyddyn lwyddiannus arall o safbwynt llywodraethu, ac fe soniodd am y risg yn sgil maint y gwaith sy’n gysylltiedig â datblygiadau cenedlaethol sydd y tu hwnt i reolaeth y Gronfa.

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad ariannol a chyfrifon, yma gan ddweud:

-       Roedd yna welliant yng ngwerth ased net o 2.3 biliwn i 2.48 biliwn, yn bennaf oherwydd symudiad cadarnhaol yn y farchnad.

-       Llai o gyfraniadau yn sgil canlyniad Prisiad Actiwaraidd 2022.

-       Mwy o bensiynau yn daladwy yn sgil cynnydd chwyddiant mewn pensiynau ym mis Ebrill 2023.

-       Mwy o wariant yn gyffredinol o’i gymharu ag incwm ac eithrio ffioedd ac incwm buddsoddi. Roedd hyn yn cyd-fynd yn unol â’r amcanestyniad.

-       Trosolwg o berfformiad a ffioedd buddsoddi.

-       Y sefyllfa gyllido a amcangyfrifwyd oedd 109% ar 31 Mawrth 2024.

 

Yn olaf, gofynnodd i Aelodau nodi’r ymateb drafft i Lythyr Ymholiadau Archwilio gan Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24.

Fe soniodd y Cynghorydd Wedlake am y sylwadau oedd yn ymwneud â thanberfformiad yn erbyn y meincnod ar dudalen 119. Roedd yn cydnabod bod angen edrych ar y darlun ehangach yn ymwneud â’r sefyllfa gyllido gadarnhaol, ond fe allai’r ffigurau ddynodi os ydi’r tueddiadau presennol yn parhau, fe allai’r Gronfa danberfformio yn erbyn y meincnod 10 mlynedd, yn ogystal â’r meincnod 1-5 mlynedd. Roedd yn teimlo bod angen rhagor o eglurhad ar gyfer hyn. Cadarnhaodd Mr Turner y byddant yn edrych ar hyn ac y bydd geiriad pellach yn cael ei ddarparu.

Gan gyfeirio at y sylwadau ar dudalen 140 am golli perfformiad yn ystod yr adolygiad o wefan y Gronfa, gofynnodd y Cynghorydd Wedlake am grynodeb o ba welliannau fydd yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd perfformiad yn dychwelyd i lefelau blaenorol yn y dyfodol. Fe eglurodd Mrs K Williams fod y gostyngiad mewn perfformiad wedi digwydd pan nad oedd modd defnyddio’r wefan tra’i bod yn cael ei diweddaru yn rhan o’r adolygiad o’r wefan. Ar adeg ei ysgrifennu, roedd yr adolygiad ar waith, serch hynny, mae hwnnw bellach wedi cael ei gwblhau ac fe ddylai’r gwelliannau a wnaed yn rhan o’r gwaith yma wella lefel y perfformiad yn naturiol dros amser.  Cadarnhaodd y bydd y geiriad yn yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru i egluro hyn.

PENDERFYNWYD:

Fe ystyriodd y Pwyllgor fersiwn ddrafft yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a rhoi sylw amdanynt, a nodi Llythyr Ymholiadau Archwilio a’r ymateb.   

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Dogfennau Atodol: