Manylion y penderfyniad
Audit Wales External Audit Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Mr Bateman yr eitem hon, a’i throsglwyddo i Jodie Williams o Archwilio Cymru i egluro pwyntiau allweddol y Cynllun Archwilio i’r Pwyllgor, gan gynnwys:
- Y lefel perthnasedd a'r trothwy adrodd.
- Mae Datgeliadau Personél Cysylltiedig a Phersonél Rheoli Allweddol yn faes o ddiddordeb penodol, y mae lefel perthnasedd is wedi'i bennu ar ei gyfer.
- Mae gwaith archwilio a chynllunio ar y gweill ac nid yw pob maes o'r asesiad risg wedi'i gwblhau.
- Ar hyn o bryd, yr unig risg sylweddol o ran datganiadau ariannol a nodwyd yw'r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau. Eglurodd fod hon yn risg anochel ym mhob endid, ac amlinellodd ymateb arfaethedig y Tîm Archwilio. Os bydd unrhyw risgiau ariannol sylweddol ychwanegol yn codi, bydd Archwilio Cymru yn adrodd ar y rhain i'r Pwyllgor mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
- Mae dau faes arall i ganolbwyntio arnynt ar hyn o bryd: Prisiadau Buddsoddi a newidiadau staff allweddol o fewn y tîm Cyllid.
- Bwriedir cynnal yr archwiliad yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst, a bydd Archwilio Cymru yn adrodd yn ôl gyda'r adroddiad Archwilio a'r safbwyntiau i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd.
- Cyfanswm y ffi archwilio amcangyfrifedig, sy'n gynnydd o bron i £3,000 o gymharu â'r llynedd.
- Y tîm archwilio, a gwrthdaro posibl; mae'r arweinydd archwilio a'r hyfforddai yn aelodau gohiriedig o'r Gronfa ac mae mesurau diogelu ar waith i liniaru unrhyw risgiau i annibyniaeth.
Gwnaeth Mr Hibbert sylw ar y ffigwr o £49,693 ar gyfer y ffi archwilio amcangyfrifedig. Cadarnhaodd Ms J Williams mai amcangyfrif yw hwn ac y bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei ddychwelyd pe ceid tanwariant.
Nododd Mrs McWilliam yr amserlen ar gyfer yr adroddiad archwilio i ddod i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd. Gofynnodd a fyddai drafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gronfa yn dal i gael eu derbyn yn y Pwyllgor mis Medi. Dywedodd Mr Bateman mai'r bwriad gwreiddiol oedd mynd â'r adroddiad i Bwyllgor mis Medi a bod y Gronfa'n dal i weithio i'r terfyn amser hwn, ond mae Archwilio Cymru yn awgrymu mai ym mis Tachwedd y bydd yr adroddiad archwilio terfynol. Cadarnhaodd Ms J Williams fod Archwilio Cymru yn dal i fwriadu cynnal y gwaith archwilio ym mis Gorffennaf a mis Awst.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynllun Archwilio Cymru ac yn rhoi sylwadau arno.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2025
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/06/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol: