Manylion y penderfyniad

Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Digartrefedd Sir y Fflint

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Cabinet am gynnydd o ran yr Adolygiad Annibynnol a gwblhawyd gan Neil Morland ac amlinellu arbedion effeithlonrwydd posibl trwy amrywio Portffolio Llety Digartrefedd y Cyngor.

Penderfyniad:

(a)       Nodi canfyddiadau ac argymhellion Neil Morland & Co. a chefnogi'r adroddiad i symud ymlaen drwy'r cylch pwyllgorau gyda diweddariadau rheolaidd i'w rhannu gyda'r Aelodau o ran cynnydd yn erbyn argymhellion;

 

(b)       Derbyn yr egwyddor o osgoi costau ac effeithlonrwydd gwario i arbed i ariannu capasiti staffio ychwanegol o fewn y Gwasanaeth Tai ac Atal trwy arallgyfeirio'r portffolio llety digartref, i uchafu'r cyfle i leihau gwariant ar lety digartref yn llwyddiannus; a

 

(c)       Cydnabod yr angen am fodelau tai a rennir a Thai Amlfeddiannaeth (HMOs) o fewn y cynlluniau arallgyfeirio llety digartref.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 16/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 15/10/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/10/2024 - Cabinet

Dogfennau Atodol: