Manylion y penderfyniad

Governance for the Transformation Programme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cymeradwyo’r penderfyniad ar ddulliau trosolwg ar gyfer y rhaglen arfaethedig o adolygiadau trawsnewid. Nod y rhaglen drawsnewid yw adolygu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn gwneud arbedion i helpu i gau’r bwlch cyllido yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y strwythur llywodraethu arfaethedig ar gyfer y rhaglen drawsnewid, gyda’r nod o wneud arbedion i helpu i gwrdd â'r bwlch ariannu yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor i gael gwneud cofnod o’i ddiolch i'r Cadeirydd am gymryd rhan yn y broses.

 

Yn ystod y drafodaeth, cafodd gwelliant ei gyflwyno, a’i golli.  Pleidleisiwyd am welliant dilynol, a oedd yn adlewyrchu pryderon ynghylch adolygu cynnydd ar ganlyniadau ac adnoddau yn rheolaidd.  Nododd swyddogion y cais am ddiweddariadau ar y rhaglen i nodi ‘safon methiant’ i ganfod unrhyw risgiau posibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r strwythur llywodraethu arfaethedig ac yn ei argymell i'r Cabinet ymrwymo i adnoddau Blwyddyn 1 (2024/25) y rhaglen; a

 

(b) Bod y Pwyllgor yn addasu ei raglen waith ei hun er mwyn ystyried y rôl y bydd yn ei chwarae yn y rhaglen drawsnewid.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: