Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Outturn) and Capital Programme 2023/24 (Outturn)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Mae’r adroddiad hwn yn darparu sefyllfa alldro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a sefyllfa alldro’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwr Cyllid Strategol adroddiadau ar ganlyniad terfynol 2023/24 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai a'r Rhaglen Gyfalaf cyn i’r Cabinet eu hystyried.
Byddai ymatebion ar wahân yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor ar (i) y gost o brynu cerbydau ar gyfer adnewyddu contract y Fflyd; (ii) canran y cronfeydd wrth gefn yn erbyn refeniw a ddelir gan awdurdodau lleol eraill at ddibenion cymharu; (iii) gwybodaeth am y tâl llety gwasanaeth a rennir gan Gyngor Gwynedd o dan Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a (iv) manylion costau Tlodi Bwyd o £0.042m a danddatganwyd yn flaenorol mewn Tai a Chymunedau. Hefyd, gofynnwyd am ddiweddariad ar opsiynau lliniaru digartrefedd ar gyfer cyfarfod mis Medi.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac
(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (sefyllfa derfynol), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: