Manylion y penderfyniad
Childcare and Early Years Capital Programme 2022-25
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Diweddaru’r Aelodau ar raglen gyfalaf y blynyddoedd cynnar a derbyn cymeradwyaeth i:
• symud ymlaen i’r cam dylunio ac adeiladu (i gwrdd â Llywodraeth Cymru a Llinell Amser y Prosiect)
• penodi contractwr gan ddefnyddio Dyfarniad Uniongyrchol (fel y cytunwyd gyda’r tîm Dylunio)
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r ddau brosiect arfaethedig ar gyfer cam 2 Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-25 a’r lleoliadau adeiladu posibl a nodwyd. Roedd y prosiectau o fewn y rhaglen wedi cael eu dewis gan ddefnyddio Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant, a meini prawf cyllid Llywodraeth Cymru.
Byddai’r prosiectau, pe baent yn cael eu cymeradwyo, yn darparu cyfleusterau Gofal Plant newydd, ac yn cynyddu’r ddarpariaeth gofal plant ar draws Sir y Fflint mewn lleoliadau amrywiol. Roedd y ffocws ar y blynyddoedd cynnar, fodd bynnag, gellid defnyddio’r adeiladau ar gyfer gofal plant estynedig, darpariaeth ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.
Y prosiect cyntaf oedd Parc Cornist, y Fflint ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, roedd Tîm Cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint yn dymuno symud y prosiect hwn ymlaen i’r cam nesaf, sef cyflwyno cais ‘dylunio ac adeiladu’ i Lywodraeth Cymru (LlC). Roedd yr ail brosiect yn Ysgol Terrig/ Ysgol Parc y Llan, Treuddyn. Roedd dewisiadau dichonoldeb wedi’u pennu ar gyfer y safle hwn ac roedd angen gwneud gwaith pellach gyda phartneriaid i gwblhau’r cynllun a ffefrir cyn ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â chyflwyno’r cais ‘dylunio ac adeiladu’ i LlC.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y cynhaliwyd cam 1 y Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar rhwng 2019-2022. Codwyd naw adeilad modwlar newydd a chafodd yr adeilad presennol ei adnewyddu. Cafodd prosiectau cam 1 eu cwblhau o fewn y gyllideb a ddyrannwyd, a cheir rhestr o’r safleoedd yn yr adroddiad.
Mae'r astudiaethau dichonoldeb wedi'u cwblhau a bu iddynt lywio dewisiadau ar gyfer y ddau safle. Dewis 2 yw’r un a ffefrir ar gyfer y safle yn y Fflint. Roedd angen gwneud gwaith pellach gyda phartneriaid ar safle Treuddyn, er mwyn sicrhau bod y dewis mwyaf priodol yn cael ei bennu, i gydbwyso ystod o anghenion a ffactorau mewn perthynas â’r safle.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno cais i Raglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar 2022-2025 ar gyfer Parc Cornist, y Fflint, cynllun i symud ymlaen o’r cam ‘dechrau prosiect’ ac i ofyn am gytundeb i gam ‘dylunio ac adeiladu’ y rhaglen gan Lywodraeth Cymru;
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo proses Dyfarniad Uniongyrchol i benodi contractwr profiadol i gwrdd â therfyn amser Llywodraeth Cymru, sef 31 Mawrth 2025. Bydd y dyfarniad drwy fframwaith presennol Pagoba; a
(c) Bod y Cabinet yn nodi Ysgol Terrig/ Ysgol Parc y Llan, Treuddyn fel ail brosiect posibl, yn amodol ar waith pellach gyda phartneriaid. Os bydd y dewisiadau'n rhai ymarferol o fewn yr amserlenni a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru, ceisir cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen, yn seiliedig ar yr amserlenni, y costau a’r cytundeb partneriaeth.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/08/2024
Dogfennau Atodol: