Manylion y penderfyniad

Capital Programme Monitoring 2023/24 (Outturn)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2023/24

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf.

 

Drwy’r Rhaglen Gyfalaf, gwelwyd gostyngiad net o (£16.834 miliwn) yn y gyllideb yn ystod y chwarter diwethaf, a oedd yn cynnwys:

 

  • Gostyngiad net o (£12.875 miliwn) yng nghyllideb y rhaglen (Gweler Tabl 2 Cronfa’r Cyngor (£10.125 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£2.750 miliwn);
  • Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 a gymeradwywyd ym Mis 9 o (£1.810 miliwn);
  • Newid o grant Cynhaliaeth Ysgolion (£0.401 miliwn) a’r grant Anghenion Dysgu Ychwanegol (£1.575 miliwn) (Cronfa’r Cyngor); ac 
  • Arbedion a nodwyd yn y sefyllfa derfynol o (£0.173 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)

 

Roedd y gwariant gwirioneddol am y flwyddyn yn £69.807 miliwn (Gweler Tabl 3).

 

Yr arian dros ben terfynol o’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 2025/26 oedd £2.815 miliwn, a oedd £0.819 miliwn yn uwch na’r £1.996 miliwn a ragwelwyd wrth gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf 2024/25 2026/27 ar 6 Rhagfyr 2023.

 

Ar ôl derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol, byddai'r Cyngor yn derbyn dyraniad is o £0.017 miliwn y flwyddyn, o gymharu â’r cyllid a amcangyfrifwyd pan gafodd y gyllideb ei gosod.

 

Felly, effaith y sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 yw sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £0.820 miliwn (o gymharu â £0.052 pan gafodd y gyllideb ei gosod), cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol; 

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r addasiadau dwyn ymlaen, fel y nodir ym mharagraff 1.15; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dyraniad ychwanegol, fel y nodir ym mharagraff 1.19.

 

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: